Plaid Cymru a Reform am weld rhaniadau medd Eluned Morgan
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod y ddwy blaid sydd uchaf yn y polau piniwn yng Nghymru eisiau gweld rhaniadau yn hytrach nag undod.
Wrth siarad ar Radio Cymru dywedodd Eluned Morgan bod Reform a Plaid Cymru yn ddwy blaid sy'n cynrychioli "cenedlaetholdeb mewn gwahanol mathau o ffyrdd".
Mae'r arolygon barn yn awgrymu mai'r ddwy blaid yma sydd yn mynd i ennill y mwyaf o seddi yn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai.
"Beth mae'r ddau blaid eisiau gweld yw rhaniadau. Mae Plaid Cymru eisiau gweld mwy o raniad gyda Lloegr ac wrth gwrs yn ni yn ddibynnol arnyn nhw ar gyfer lot fawr o'n harian ni," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Ac wrth gwrs mae Reform eisiau gweld rhaniadau yn ein cymunedau ni. Ni'n blaid sydd eisiau uno pobl, eisiau gweld ein cymuned ni yn glos, yn agos ac yn cydweithio er lles bob un."
Mae cynhadledd y blaid Lafur yn cael ei chynnal yn Lerpwl ar hyn o bryd.
Yn ôl y Farwnes Morgan nid dyma'r amser i bobl Cymru gymryd "risg" ac ethol llywodraeth sydd ddim yn un Llafur am fod y byd yn ansefydlog ar hyn o bryd.
"Mae'n bwysig i bobl i ddeall bod 'na risg i gael os na fydd Llafur yn arwain a dwi yn poeni am yr effeithiau ar ein gwasanaethau cyhoeddus os na fydd llywodraeth Lafur yn arwain," meddai.
Yn ystod y cyfweliad dywedodd nad yw'r blaid Lafur "yn yr un sefyllfa ag oedden ni blwyddyn yn ôl".
Ond fe aeth ymlaen i ddweud bod gan y blaid nifer o ymgeiswyr ar gyfer etholiad y Senedd flwyddyn nesaf sydd â "syniadau newydd".
Yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yw'r diweddaraf i ddweud na fydd yn sefyll yn yr etholiad.
Mae Eluned Morgan yn dweud bod y rhan fwyaf sydd wedi datgan na fyddan nhw yn sefyll yn bensiynwyr.
"Mae bob un yn haeddu cael brêc rhywbryd ac wrth gwrs mae pobl gyda rhesymau personol dros sefyll i lawr. Yn ni gyd yn fodau dynol ar ddiwedd y dydd yn ogystal â bod yn wleidyddion," meddai.
Mewn ychydig wythnosau fe fydd is-etholiad yng Nghaerffili yn sgil marwolaeth yr AS Hefin David.
Dyw hi ddim yn glir os fydd Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, yn ymweld â'r dref cyn yr is-etholiad.
"O beth dwi'n deall dyw Keir Starmer byth yn mynd i is-etholiadau, felly dwi'm cweit yn siŵr pam bod hwnna yn gymaint o stori," meddai.
"Felly mi fyddai yn mynd yna, dwi wedi bod yna eisoes ac mae hi yn is-etholiad pwysig."