Ysgrifennydd Cymru yn rhybuddio 'yn erbyn annibyniaeth i Gymru'
Mae Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens wedi dweud yng Nghynhadledd y Blaid Lafur ddydd Sul y gallai uchgelgais Plaid Cymru o sicrhau annibyniaeth i Gymru arwain y wlad yn ôl i amodau economaidd anodd.
Mae'r blaid Lafur yn honni y byddai annibyniaeth yn arwain at oedolion o oedran gweithio yn talu mwy na £11,000 yn ychwanegol bob blwyddyn mewn trethi i gynnal y lefel bresennol o wasanaethau cyhoeddus.
Mae Plaid Cymru yn dweud fod polisïau Llafur, er enghraifft "y cap budd-dal dau blentyn, y cynnydd mewn yswiriant gwladol, toriadau mewn taliadau tanwydd gaeaf...yn gofnod cywilyddus ar ôl addewid o newid".
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi dweud yn y gorffennol na fyddai'r blaid yn cynnal refferendwm ar Gymru yn gadael y DU yn ei thymor cyntaf yn y llywodraeth.
Ond mae wedi dweud y gallai hynny ddigwydd rhywbryd "o fewn ein hoes ni."
Wrth siarad yn y gynhadledd ddydd Sul, dywedodd Ms Stevens fod y ddwy lywodraeth Lafur yng Nghymru a San Steffan yn gosod y wlad yn ganolbwynt i adfywiad cenedlaethol.
Ychwanegodd: "Gyda'n gilydd fel llywodraethau Llafur, rydym ni'n gosod y llwybr ar gyfer adfywiad tuag at Gymru sydd yn fwy teg a llewyrchus, yn falch o'n hanes ac mewn rheolaeth o'n dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae’n eithaf arwyddocaol bod Jo Stevens wedi dewis defnyddio llwyfan ei chynhadledd i siarad Cymru lawr ar adeg lle mae mwy a mwy o bleidleiswyr Llafur yn dod at Blaid Cymru gyda’n gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein cenedl a’n cred yn ein potensial."
'Gwenwyn gwahanol o'r un botel'
Fe wnaeth Prif Weinidog Eluned Morgan rybuddio y byddai yna "anhrefn" yng Nghymru pe bai Plaid Cymru neu Reform UK yn llwyddiannus yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
"Rydym ni wedi gweld hyn yn digwydd yng Nghymru o'r blaen," meddai.
"Fe wnaeth plaid Ukip Nigel Farage ethol saith aelod yn 2016 ac erbyn diwedd y tymor, roedd chwech ohonyn nhw wedi gadael, yn sgil ffraeo mewnol ac addewidion wedi torri."
Ychwanegodd Eluned Morgan fod Plaid Cymru a Reform yn "wahanol wenwyn o'r un botel".
Fe ychwanegodd Jo Stevens fod Nigel Farage yn "fygythiad mawr" i Gymru, ac wedi ymddangos yn y wlad gyda "amharch, rhaniadau a dirmyg" i gymunedau.
"Dydi Reform UK ddim yn poeni am Gymru. Does ganddyn nhw ddim polisïau Cymreig. Does ganddyn nhw ddim arweinydd yng Nghymru. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gallu sillafu Caerffili yn iawn."
Fe ddywedodd Reform UK yng nghynhadledd y blaid yn gynharach ym mis Medi y byddan nhw yn addo adeiladu rhagor o feddygfeydd ar draws Cymru os ydyn nhw’n ennill etholiadau’r Senedd fis Mai nesaf.
Fe ddywedodd yr Aelod o Senedd Cymru Laura Anne Jones yn y gynhadledd honno bod ei phlaid hefyd yn erbyn ehangu y Senedd i 96 aelod o’r 60 presennol, er y bydd y newid hwnnw eisoes wedi digwydd erbyn yr etholiadau y flwyddyn nesaf.