Plentyn wedi marw oddi ar arfordir Ffrainc wrth geisio croesi'r Sianel yn ôl adroddiadau

cwch mudwyr

Mae plentyn wedi marw oddi ar arfordir Ffrainc wrth geisio croesi'r Sianel mewn cwch bach yn ôl adroddiadau. 

Daw marwolaeth y plentyn ddiwrnod yn unig wedi i ddwy ddynes farw wrth geisio croesi i'r DU mewn digwyddiad ar wahân oddi ar arfordir gogleddol Ffrainc. 

Yn ôl gwefan Nord Littoral, fe gafodd ymchwiliad ei lansio i'r farwolaeth ddiweddaraf a ddigwyddodd am 06:30 ddydd Sul ar draeth Ecault, yn Saint-Etienne-au-Mont.

Mae'r wefan hefyd yn nodi fod 48 o fudwyr wedi derbyn gofal gan wasanaethau brys ond fod y cwch wedi parhau ar draws y Sianel. 

Dywedodd yr erlynydd yn Boulogne-sur-mer, Cecile Gressier: "Mae ymchwiliad wedi cael ei agor i sefydlu amodau'r farwolaeth."

Bu farw'r ddwy ddynes, o Somalia yn honedig, wedi i tua 100 o bobl adael gogledd Ffrainc am y DU mewn cwch bach nos Wener yn ôl adroddiadau yn Ffrainc. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.