Wcráin: Zelensky yn condemnio ymosodiadau 'ffiaidd' gan Rwsia

Bomio yn Kyiv

Mae Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi condemnio ymosodiadau “ffiaidd” gan Rwsia sydd wedi lladd o leiaf pedwar o bobl ac anafu 70 eraill dros nos.

Dywedodd Mr Zelensky fod yr ymosodiadau wedi parhau am 12 awr dros wahanol rannau o’r wlad a bod merch 12 oed ymysg y rhai a fu farw yn y brifddinas Kyiv.

Mae'r ymosodiad - a oedd yn cynnwys bron i 600 o dronau a sawl dwsin o daflegrau wedi ei anelu at saith rhanbarth o Wcráin - yn un o'r trymaf yn ystod y misoedd diwethaf.

Dywedodd Mr Zelensky y byddai Wcráin yn dial a dywedodd fod yr ymosodiad "ffiaidd" yn dangos bod Moscow "eisiau parhau i ymladd a lladd".

Dywedodd Rwsia eu bod wedi taro cyfleusterau milwrol a mentrau diwydiannol sy'n cefnogi lluoedd arfog Wcráin.

Dywedodd Gweinidog Amddiffyn Wcráin, Igor Klymenko, fod o leiaf 100 o safleoedd sifil wedi cael eu difrodi ledled y wlad gan yr ymosodiad, gyda chymdogaethau cyfan wedi'u gadael yn adfeilion. Dywedodd y gwasanaethau brys fod ymosodiad ar ysbyty yn Kyiv wedi lladd nyrs a chlaf.

Llun: X/zelenskyyua

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.