
Gwibdaith Hen Frân wedi perfformio 'am y tro olaf'
Mae'r band Gwibdaith Hen Frân wedi perfformio "am y tro olaf" 20 mlynedd ers cael ei ffurfio.
Roedd y band yn adnabyddus am eu caneuon unigryw a chofiadwy gan gynnwys 'Trons dy Dad', 'Coffi Du' a 'Toyota Corolla GLI'.
Fe chwaraeodd y grŵp eu gig olaf yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe nos Sadwrn.
Daeth hyn wedi haf prysur i'r band, sydd wedi perfformio mewn sawl digwyddiad gan gynnwys Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Dywedodd Gethin Thomas, un o aelodau'r band, bod cael pawb yn ôl at ei gilydd am y tro olaf yn "uffar o deimlad da."
“Do’dd o’m yn teimlo fel bod o’n gig ola’," meddai wrth Newyddion S4C.
“O’dd on uffar o deimlad da gweld gymaint o bobl yn y gigs dros yr ha’.
“Mae o ‘di bod yn da i bobl ifanc ga’l gweld ni fyd, a ma’ lot o bobl ‘di deud hynna wrtha ni wedyn.
“Dwi’n falch bod ni ‘di neud o jyst i orffan o off hefyd mewn ffordd, fath o closure."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1953378154912821738
'Anodd'
Dechreuodd y band berfformio nôl yn 2005 fel cyfle i’r tri ffrind o Feirionnydd, Phil, Gethin a Paul gael chwarae eu caneuon i gynulleidfa fyw.
Dros y blynyddoedd, mae dros 12 o aelodau gwahanol wedi bod yn rhan o’r grŵp.
Maen nhw hefyd wedi rhyddhau pedwar albwm yn cynnwys Tafod y Wraig, Llechan Wlyb a Yn ôl ar y Ffordd.
Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae'r band wedi chwarae yng Ngŵyl Glastonbury ac mewn nifer o wledydd tramor hefyd.
Erbyn hyn mae aelodau'r band - Gethin, Phil, Paul a Rob yn byw yn bell o'i gilydd, gan olygu bod amser i ymarfer ar gyfer gigiau yn hynod brin.
“Dim ond gig Tafwyl o’dd o fod, ond o’dd pobl yn ffonio wedyn isho bwcio ni, a heiny yn gigs da," meddai Gethin.
“Ar un pwynt o’n ni’n meddwl neud llwyth o gigs eniwe, ond o’dd yr hogia ddim yn siŵr.
“Ma’ pawb yn brysur a os ‘da ni ddim yn 100% committed ma’n anodd cario rwbath ymlaen a roid amsar llawn i neud o.
“Ti isho fo fod yn dda fyd oes? Am bod gynnon ni ddim amser i ddod at ein gilydd i practisho mi o'dd o'n anodd.
“Tua wsos cynt nathon ni benderfynu mai dyma fydd yr ola’."

Wrth edrych yn ôl ar 20 mlynedd llwyddiannus, llawn chwerthin a mwynhau, mae Gethin eisiau i bobl gofio mai band oedd yn cael hwyl oedd Gwibdaith Hen Frân.
“Dwi isho i bobl cofio bod ni wedi joio’n hunain, bo' ni jyst yn joio a ‘da ni wedyn joio ti’n gwbod? Am 20 mlynadd," meddai.
“Jyst cal hwyl, doedd o’m dim byd siriys i gychwyn eniwe, jyst hwyl o’dd o gyda’n gilydd a chwara caneuon.
“A dwi’n gobeithio bod hwnna gyd 'di dod drosodd ar hyd y blynyddoedd.”