Gwasanaethau brys yn chwilio am ddyn sydd ar goll ar yr Wyddfa
Mae ymgyrch chwilio eang yn digwydd yn ardal Yr Wyddfa ar hyn o bryd meddai'r heddlu, yn y gobaith o ddod o hyd i ddyn sydd ar goll.
Cafodd y dyn o'r enw Kieran ei weld ddiwethaf ychydig cyn 12:00 ddydd Llun, yn ardal Bwlch Glas ger Llwybr Pyg ar yr Wyddfa.
Roedd yn gwisgo côt patrwm camouflage ac mae ganddo farf tywyll.
Dywedodd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn mynd yn fwyfwy pryderus am Kieran - gwyddom ei fod wedi cerdded i ben Yr Wyddfa tua 7:00 y bore yma.
“Mae chwiliadau amlasiantaeth yn parhau yn yr ardal i ddod o hyd iddo, a byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi'i weld o 7:00 ymlaen i gysylltu â ni.
“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu ein chwiliadau ffonio 999 a dyfynnu'r cyfeirnod C151686.”