Agor cwest i farwolaeth cyn hyfforddwr pêl-droed a fu farw yn ei gartref yng Nghymru
Fe agorwyd cwest yn Rhuthun ddydd Llun i farwolaeth cyn hyfforddwr pêl-droed menywod Lerpwl yn ei gartref yng Nghymru.
Cafodd Matthew Beard, 47 oed, ei ddarganfod yn crogi yn ei gartref yn Green Meadows, Penarlâg, yn Sir y Fflint.
Bu farw yn Ysbyty Countess of Chester ar ddydd Sadwrn, 20 Medi.
Dywedodd crwner dwyrain a chanol Gogledd Cymru, John Gittins, fod y farwolaeth oherwydd anaf “dinistriol” i'r ymennydd.
Ychwanegodd mai “marwolaeth annaturiol” oedd hi.
"Yn amlwg bydd angen rhagor o dystiolaeth maes o law," ychwanegodd.
Gohiriwyd y gwrandawiad byr. Nid oedd unrhyw aelod o’r teulu yn bresennol.
‘Allweddol’
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn dilyn ei farwolaeth: "Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth Matt Beard.
"Roedd Matt yn rhan allweddol o dyfu gêm y menywod yn Lloegr a bydd pawb yn gweld ei eisiau.
“Ar ôl gyrfa reoli a ddechreuodd yn Millwall Lionesses yn 2008, aeth Matt ymlaen i fod yn gyfrifol am Chelsea, Lerpwl dros ddau gyfnod, West Ham United a Burnley.
“Arweiniodd dimau ddwywaith i Rownd Derfynol Cwpan FA y Merched, yn gyntaf gyda Chelsea yn 2012 ac yna gyda West Ham yn 2019, tra bu’n goruchwylio teitlau WSL yn olynol gyda Lerpwl yn 2013 a 2014.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau yn ystod yr amser anodd hwn.”
Llun gan Katie Chan