Plant wedi dioddef 'niwed difrifol' yn ystod pandemig Covid-19
Mae marwolaeth merch 16 oed o Bowys wedi ei ddefnyddio yng ngwrandawiad Ymchwiliad Covid-19 y DU fel enghraifft o'r "niwed difrifol" a ddioddefodd plant yn ystod y pandemig.
Fe ddioddefodd rhai plant niwed gan rai a ddylai fod wedi bod yn gofalu amdanyn nhw yn ystod y pandemig, tra bod eraill wedi dod yn fwy agored i bornograffi treisgar ar-lein neu wedi treulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn chwarae gemau yn lle dysgu.
Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, fod yr effaith ar blant a phobl ifanc yn “ddifrifol ac, i lawer, yn hirhoedlog”, gan eu bod wedi colli cyfleoedd addysgol, rhyngweithio cymdeithasol ac i’r rhai oedd fwyaf mewn perygl, fe wnaethant golli amddiffyniad rhag camdriniaeth.
Dywedodd un o fargyfreithwyr yr ymchwiliad, Clair Dobbin KC, fod cau ysgolion wedi “tanlinellu’n glir” eu pwysigrwydd fel yr asiantaeth sy’n adnabod plant a theuluoedd orau.
Dywedodd y bydd tystiolaeth yn cael ei chyflwyno, yn ystod y pedair wythnos nesaf o wrandawiadau, bod gostyngiad wedi bod yn nifer y plant a gyfeiriwyd at y gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y cyfnod pan oedd ysgolion ar gau.
Addysg a lles
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar nifer o faterion gan gynnwys faint o ystyriaeth a roddwyd i blant pan oedd dewisiadau mawr yn cael eu gwneud am eu haddysg a’u lles, a’r ddarpariaeth ar gyfer a gwneud penderfyniadau ynghylch y bobl ifanc mwyaf agored i niwed.
Dywedodd wrth y gwrandawiad: “Y gwir amdani yw bod plant wedi dioddef niwed difrifol wrth law eu gofalwyr yn ystod y pandemig.
“Mae gofalwyr y plant hynny’n gyfrifol am y trais a’r esgeulustod a achoswyd i blant, ac mae’r plant hyn yn sefyll fel yr enghreifftiau mwyaf amlwg o’r hyn y mae oedolion yn gallu ei wneud i blant y tu ôl i ddrysau caeedig.”
Cyfeiriodd at achos Kaylea Titford, 16 oed, gafodd ei gadael i farw mewn budreddi yn ei gwely yng nghartref y teulu yn y Drenewydd ym Mhowys, ym mis Hydref 2020.
Cafodd ei rhieni eu carcharu am eu hesgeulustod ohoni.
Fe gyfeiriodd adroddiad diogelu yn ddiweddarach fod diffyg gweithio a chydlynu amlasiantaethau gofal yn ystod pandemig wedi arwain at waethygu cyflwr Kaylea a lleihau ei system gymorth, ymhlith y ffactorau a arweiniodd at ei marwolaeth.
Dywedodd Ms Dobbin mai ysgolion yw’r “llygaid cyson” ar blant a’r “system rhybuddio cynnar” o ran diogelu.
Wrth edrych ar effaith yr amser oedd yn cael ei dreulio gan blant ar y rhyngrwyd, dywedodd Ms Dobbin fod tystiolaeth gan yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol wedi gwneud y “pwynt syml bod cau ysgolion a ffyrlo yn achosi i fwy o blant a throseddwyr cam-drin rhywiol plant fod ar-lein” yn ystod y pandemig.
Dywedodd fod yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol wedi dod i’r casgliad “bod y cyfyngiadau a osodwyd oherwydd Covid wedi sbarduno newidiadau parhaus dros dro a chyflym i droseddau cam-drin rhywiol plant” gan gynnwys mwy o amlygrwydd i bornograffi treisgar a chynnydd mewn cam-drin rhywiol rhwng pobl ifanc o oedran tebyg.
Gan gyfeirio at gemau ar-lein oedd yn tynnu sylw oddi wrth ddysgu, dyfynnodd un person ifanc a ddywedodd eu bod yn “eistedd yno heb ysgol, yn chwarae Animal Crossing (gêm) am chwe mis fel arfer”, ac un arall a ddywedodd eu bod yn chwarae’r gêm Roblox ar-lein am hyd at 19 awr y dydd ar un adeg yn ystod y pandemig.
Llun: Kaylea Titford