Cyhoeddi cynllun i wahardd rasio milgwn yng Nghymru erbyn 2030

rasio milgwn

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio dod a rasio milgwn i ben yng Nghymru erbyn 2030.

Fe fydd rhedeg trac i rasys milgwn neu gynnal rasys yn dod yn drosedd o fewn y bum mlynedd nesaf, gyda’r Llywodraeth yn cyhoeddi mesurau i wahardd y gamp yn raddol.

Mae'r bil wedi ei gyhoeddi ddydd Llun ac mae disgwyl y bydd Aelodau’r Senedd yn ei gefnogi pan ddaw'r bleidlais.

Byddai hynny’n arwain at waharddiad y gamp rhwng Ebrill 2027 ac Ebrill 2030.

Yn sgil hyn mae'r unig drac rasio milgwn gweithredol sydd ar ôl yng Nghymru, Stadiwm Milgwn y Dyffryn yn Ystrad Mynach, yn wynebu gorfod cau.

Mae grŵp wedi ei sefydlu er mwyn rhoi cyngor ar fesurau i ddiogelu milgwn ac amlygu’r sgil effeithiau economaidd. Maent yn cynnwys arbenigwyr y diwydiant a rhai sy'n edrych ar ôl lles anifeiliaid.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y dirprwy Brif Weinidog gyda chyfrifoldeb dros gefn gwlad, Huw Irranca-Davies, nad oes modd “cyfiawnhau’r drwg y mae rasio milgwn yn ei achosi” bellach.

“Rydym wedi gwrando ar y cyhoedd, ystyried y dystiolaeth, a chymryd camau pendant i roi blaenoriaeth i les anifeiliaid,” ychwanegodd Mr Irranca-Davies.

'Dioddefaint'

Yn 2021, cafodd deiseb ei chyflwyno i’r Senedd gan y grŵp Hope Rescue. Roedd gan y ddeiseb 35,101 o lofnodion. Roedd y grŵp yn galw am wahardd rasio milgwn.

Cafodd adroddiad, o'r enw ‘Y Troad Terfynol?’, ei drafod yn siambr y Senedd yn 2023, gyda mwyafrif o aelodau'n cefnogi gwaharddiad.

Fe fuodd mwy na 2,000 o filgwn farw a chofnodwyd bron i 18,000 o anafiadau ar draciau trwyddedig yn y DU rhwng 2018 a 2021, yn ôl tystiolaeth gan y grŵp ymgyrchu Cut the Chase.

Cafodd deiseb arall, yn cefnogi rasio milgwn yng Nghymru gan amlygu pryderon dros unrhyw waharddiad, 10,601 o lofnodion.

Cafodd y gwaharddiad ei gynnwys yn rhan o’r gyllideb 2025/26 ar y cyd gydag unig Aelod Senedd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds.

Yn y gorffennol mae Ms Dodds wedi dweud bod rasio milgwn yn "bodoli am un pwrpas yn unig: arian. 

"Arian o’r symiau mawr o fetiau a roddir ar ddioddefaint yr anifeiliaid yma. Rydym yn genedl sy’n gofalu am anifeiliaid ac nid oes lle i gampau fel hyn yng Nghymru.”

Mae Bwrdd Milgwn Prydain Fawr (GBGB) yn rheoleiddio ac yn trwyddedu rasio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys yn Stadiwm Milgwn y Dyffryn.

Cymru fyddai’r genedl gyntaf yn y DU i wahardd rasio milgwn.

Ym mis Rhagfyr, cafodd cynlluniau tebyg am waharddiad eu cyhoeddi yn Seland Newydd oherwydd anafiadau a marwolaethau cŵn.

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.