Newyddion S4C

Teyrngedau i arweinydd olaf yr Undeb Sofietaidd Mikhail Gorbachev

31/08/2022

Teyrngedau i arweinydd olaf yr Undeb Sofietaidd Mikhail Gorbachev

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i arweinydd olaf yr Undeb Sofietaidd, Mikhail Gorbachev, sydd wedi marw yn 91 oed.

Cyhoeddodd asiantaeth newyddion Interfax yn Rwsia bod y cyn-wleidydd wedi marw nos Fawrth.

Dywedodd swyddfa Mr Gorbachev ei fod wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty cyn ei farwolaeth.

Roedd Mr Gorbachev yn Ysgrifenydd Cyffredinol yr Undeb Sofietaidd rhwng 1985 ac 1990, cyn dod yn Arlywydd ar yr Undeb rhwng Mawrth 1990 a Rhagfyr 1991.

Roedd ei bolisi o Perestroika, oedd yn gyfrifol am newidiadau i strwythur economi'r Undeb Sofietaidd, yn gam arwyddocaol yn hanes yr undeb honno.

O dan ei arweinyddiaeth fe adawodd lluoedd yr Undeb Sofietiaidd eu hymgyrch filwrol waedlyd yn Affganistan yn 1989.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru bod diwygiadau radical a hanesyddol Mr Gorbachev wedi llwyddo "i ddod â diwedd heddychlon i'r Rhyfel Oer ac mae'n parhau i fod yn wers werthfawr a phwerus yn ystod y cyfnod hwn o wrthdaro ofnadwy yn Wcráin."

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, fod Mr Gorbachev yn “arweinydd prin”.

Ychwanegodd ei fod yn wleidydd unigryw oedd â’r “dychymyg i weld bod dyfodol gwahanol yn bosibl” yng nghanol tensiynau’r Rhyfel Oer.

Mae Llywydd yr Undeb Ewropeaidd Ursula von der Leyen wedi ei ddisgrifio fel “arweinydd oedd modd ymddiried ynddo” a “agorodd y ffordd ar gyfer Ewrop rydd”.

“Mae’r etifeddiaeth hon yn un na fyddwn yn ei hanghofio,” ychwanegodd.

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, ei fod yn edmygu dewrder ac uniondeb Mr Gorbachev, gan ychwanegu: “Mewn cyfnod o ymddygiad ymosodol Putin yn Wcráin, mae ei ymrwymiad diflino i agor cymdeithas Sofietaidd yn parhau i fod yn esiampl i ni i gyd.”

Daeth yn enwog am hybu tryloywder o dan y slogan 'Glasnost', gan alluogi'r wasg i leisio barn agored am wleidyddon yr Undeb Sofietiaidd a'u polisïau.

Agorodd hyn y drws i ddiwedd y Rhyfel Oer yn y pen draw, wrth i wledydd y Bloc Sofietaidd awchu am ryddid o rym gwleiddol Moscow.

Fe dderbyniodd y Wobr Nobel am ei ymdrechion, ac fe fydd yn cael ei weld fel un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, bydd Mr Gorbachev yn cael ei gofio am ei ddewrder ac fel un o brif gymeriadau'r ugeinfed ganrif.

Yn ôl asiantaeth newyddion Interfax yn Rwsia, mae'r Arlywydd Vladimir Putin wedi "lleisio ei gydymdeimlad dwysaf" wrth glywed am farwolaeth Mikhail Gorbachev.

Ond digon cymysg oedd y teimladau yn ei famwlad amdano yn y blynyddoedd yn dilyn ei yrfa wleidyddol. I lawer yn Rwsia fe gyflwynodd ryddid cymdeithasol a'r farchnad rydd i'r wlad.

I eraill, roedd yn gyfrifol am grebachu dylanwad gwleidyddol Rwsia yn llygaid gweddill y byd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.