Car oedd yn berchen i'r Dywosoges Diana yn gwerthu am £650,000 mewn arwerthiant
Car oedd yn berchen i'r Dywosoges Diana yn gwerthu am £650,000 mewn arwerthiant
Mae car oedd yn berchen i'r Dywysoges Diana wedi gwerthu am £650,000 mewn arwerthiant.
Cafodd y Ford Escort RS Turbo du ei werthu mewn arwerthiant gan Silverstone Auctions yn Sir Warwick ar 27 Awst.
Mae dydd Mercher yn nodi 25 mlynedd ers marwolaeth y Dywysoges Diana.
Roedd y Dywysoges wedi gyrru'r car am dair blynedd rhwng 1985 ac 1988.
Gyda phris premiwm, roedd y car wedi gwerthu am £730,00 i brynwr yn Sir Gaer.
'Y mwya' o ymholiadau i ni byth wedi cael'
Arwel Richards o Lanelli yw arbenigwr ceir clasurol Silverstone Auctions.
Dywedodd bod llawer o ddiddordeb wedi bod yn y car a bod y cwmni wedi derbyn 56 bid dros y ffôn, y mwyaf maen nhw wedi derbyn ers 12 mlynedd.
"Fi wedi gweithio i Silverstone Auctions am naw mlynedd a fi wedi gwerthu lot o geir oedd gyda celebrity ownership, ceir Elton John, David Beckham, y Frenhines, y Dywysoges Margaret. Ond y car hwn oedd y car gyda'r mwyaf o enquiries i ni byth wedi cael,"
Credai Arwel fod y car yn bwysig nid yn unig oherwydd bod y model du yn brin, ond oherwydd pwy oedd yn ei yrru hefyd.
"Mae'r car yn spesial yn ei hunain achos hwn oedd yr unig gar du oedd wedi cael ei beintio'n ddu o'r RS Turbo Series One achos oedd pob car arall yn wyn," meddai.
"Yr ail beth yw'r ffaith oedd e'n bwysig iawn bod y Dywysoges yn dreifio car o'ch chi'n ffindo ar housing estate, dim o flaen Kensington Palace."
O gymharu â cheir eraill, roedd y car hwn wedi gwerthu am dair gwaith y pris, sydd wedi synnu Arwel.
"Oedd Lamborghini Countach gyda fi yn yr un sêl, a gwerthodd hwnna am £275,000. O'n i'n siarad gyda lot o bobl ac o'n i'n dweud 'Ydy'r car hwn yr un pris a Lamborghini Countach, a werthodd e am dair gwaith y pris."
"Gwerthon ni, gyda buyers' premium o 12%, gwerthon ni y car am £730,000, sydd yn lot o arian am gar."