Milwr gafodd ei anafu yn Affganistan wedi ei 'fychanu am fod yn Gymro'

Mae milwr dioddefodd anafiadau yn Afghanistan yn honni ei fod wedi cael ei watwar am fod yn Gymro mewn sylwadau gafodd eu clywed ar ddamwain pan oedd yn ceisio am iawndal.
Roedd y swyddog ar wasanaeth dreuliodd 26 mlynedd yn y fyddin wedi cael niwed mewn ffrwydriad yn Affganistan yn 2009.
Dywedodd y milwr dienw i’r Telegraph bod pobl yn chwerthin am ei ben yn ystod ymgynghoriad gyda phanel sifil oedd yn rhoi cyngor i’r Weinyddiaeth Amddiffyn am ei gais Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS).
Mae’n honni bod 10 munud o doriad wedi bod yn y cyfarfod ar-lein lle’r oedd y tîm cyfreithiol wedi anghofio tawelu eu meicroffonau.
Dywedodd y milwr: “Fe wnaethon nhw chwerthin a dweud, "Well, he is Welsh. He doesn’t understand why he is here. He can’t be that intelligent given he doesn’t know why he’s here."”
Yn ôl y milwr, dywedodd un o aelodau’r panel nad oedd e’n edrych fel petai wedi cael anaf mewn ffrwydriad, sylwad wnaeth achosi i’r aelodau eraill chwerthin.
Roedd e’n honni eu bod nhw hefyd wedi dweud “he’s kicking a can down the road” ac “if he knows what’s best, he should withdraw the claim."
Dywedodd y swyddog hefyd: “Roedd clywed y ffordd yr oedden nhw’n lladd arna’i a siarad amdanaf i mewn modd gwahaniaethol yn annerbyniol.
“Dydw i ddim wedi cael fy mychanu fel hynny yn fy mywyd. Roeddwn i’n grac ac yn teimlo bod yr union system, sydd mewn lle i gefnogi milwyr sydd wedi’u hanafu, wedi fy ngadael i lawr. Roeddwn i’n ddigon ffodus - neu’n anffodus - i glywed beth oedd gan banel nodweddiadol aelodau o fwrdd proffesiynol i’w ddweud amdanaf i yn y tribiwnlys."
Fe wnaeth Llywydd y Siambrau ysgrifennu at y swyddog yn gynharach yn y mis ac ymddiheurio am y “digwyddiad anffodus”.
Dywedodd: “Mae’n ddrwg iawn gen i beth ddigwyddodd ac rwy’n ymddiheurio am y tramgwydd achoswyd i chi… Mae’n debyg, o’r hyn rwyf wedi’i glywed hyd yn hyn, ein bod wedi siomi’r disgwyliadau sydd arnom.”
Dywedodd y milwr fod y sylwadau wedi’i wneud yn “ddigalon, ac wedi fy ysgwyd”, heb “ffydd na pharch tuag at y broses o gwbl bellach.”
Yn ôl The Telegraph, mae’r cynllun AFCS - sydd yn rhoi llawer o arian a thaliadau misol am anafiadau, salwch a marwolaeth sydd wedi’u hachosi gan wasanaeth yn y fyddin - wedi derbyn nifer o gwynion.
Dywedodd Amanda Marsh, cyfreithwraig arbenigol anafiadau milwyr, wrth The Telegraph: “Rydym yn aml yn gweld problemau gyda cheisiadau sydd heb gael eu hasesu i’r lefel gywir, sy’n golygu nad yw aelodau’r lluoedd arfog - sydd wedi cael eu hanafu - yn cael digon o iawndal am eu hanafiadau.
“O’r ceisiadau rydym ni wedi’u cefnogi, mae hyn yn gyffredin iawn gydag Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD) yn arbennig, sy’n gallu bod yn broblem ddychrynllyd mae pobl yn byw gyda hi am weddill ei hoes.
“Rydym wedi rhannu ein pryderon gyda’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn y gobaith y bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i sicrhau bod pobl sy’n gwasanaethu dros y wlad yn cael ei thrin yn y ffordd decaf.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: “Rydym ni’n angerddol iawn dros gefnogi ein pobl drwy gydol ei gwasanaeth a thu hwnt.
“Maen nhw’n gwneud aberthiadau rhyfeddol yn amddiffyn y wlad hon ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib iddyn nhw. Lle nad ydym wedi cyrraedd ein safonau ein hunain, byddwn yn gwrando ar bryderon pobl ac ymateb mewn modd priodol.
“Nid ar chwarae bach y mae penderfynu canlyniadau ar geisiadau iawndal ac mae angen ystyriaeth ofalus o sawl ffactor cymhleth, gan gynnwys hanes meddygol a mathau o wasanaeth, lle mae angen - yn aml - ohebiaeth helaeth gan y hawliwr a sawl sefydliad.”