Newyddion S4C

Rheithgor yn achos Ryan Giggs yn cael gwybod nad oes angen penderfyniad unfrydol

Manchester Evening News 30/08/2022
S4C

Mae'r rheithgor yn yr achos yn erbyn cyn reolwr tîm Pêl-droed Cymru, Ryan Giggs wedi cael gwybod nad oes angen penderfyniad unfrydol. 

Ychwanegodd y barnwr Hilary Manley ei bod yn fodlon derbyn dyfarniad, os oes 10 o'r 11 aelod yn gytûn.  

Mae Ryan Giggs yn gwadu iddo ymosod ar ei gyn gariad Kate Greville, a'i chwaer Emma ac yn gwadu iddo reoli Kate Greville drwy orfodaeth.   

Yn Llys y Goron Manceinion brynhawn dydd Mawrth, gofynnodd y Barnwr Manley i'r rheithgor a oedden nhw wedi dod i ddyfarniad unfrydol.   

"Na,"  meddai'r cynrychiolydd.

Dywedodd y barnwr y dylai'r rheithgor barhau i geisio dod i benderfyniad unfrydol, ond y byddai'n derbyn dyfarniad os oes 10 ohonyn nhw yn gytûn. 

Mae'r rheithgor wedi bod yn ystyried eu dyfarniad ers 17 awr, ac wedi cael eu hanfon adref am y noson. Mae disgwyl iddyn nhw ail ymgynnull fore dydd Mercher . 

Rhagor yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.