Cyflwynydd newydd yn ymddangos ar Cyw am y tro cyntaf
Mae cyflwynydd newydd wedi ymuno â thîm cyflwyno Cyw ddydd Mawrth.
Cafodd Dafydd Lennon ei gyhoeddi fel aelod newydd o'r tîm yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'n ymuno ag Elin Haf, Cati Rhys a Griff Daniels ar gyfer y gwasanaeth gan S4C ar gyfer plant meithrin.
Mae Dafydd yn wreiddiol o Fro Morgannwg ond wedi byw a gweithio yn Llundain am bedair blynedd.
Fe wnaeth dreulio'r blynyddoedd diwethaf yn gweithio fel cymhorthydd gyda phlant dosbarth derbyn mewn ysgol yn Llundain.
Pan gafodd ei gyhoeddi fel cyflwynydd newydd Cyw, dywedodd Dafydd: "Dwi wedi gwneud ymdrech i gadw fy Nghymraeg dros y blynyddoedd, naill ai drwy ddefnyddio'r iaith i gyfathrebu gyda theulu a ffrindiau neu wrth ysgrifennu cerddi.
"Dros y misoedd diwethaf, dwi wedi gwneud y Wordle Cymraeg bob bore a dwi'n gwrando ar Radio Cymru bob nos wrth goginio er mwyn ychwanegu at fy ngeirfa." meddai.
Ychwanegodd Sioned Geraint, Comisiynydd Plant a Dysgwyr S4C: "Mae'n bleser gen i groesawu Dafydd i dîm cyflwyno Cyw a dwi'n edrych ymlaen i blant bach Cymru gael y cyfle i ddod i'w nabod.
"Mae hwn yn apwyntiad cyffrous gyda brwdfrydedd a thalent naturiol Dafydd o gyflwyno yn amlwg," meddai.