Gwaharddiad ar hysbysebion 'bwyd llai iach’ i ddod i rym 

Bwyd llai iachus

Fe fydd hysbysebion am fwydydd sydd ddim yn iachus yn cael eu gwahardd o ddydd Llun ymlaen.

Daw hyn fel rhan o ymgais gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant.

Mae’r gwaharddiad yn atal hysbysebion am fwyd a diod “llai iach” sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr (HFSS) rhag ymddangos ar y teledu rhwng 05:30 a 21:00, ac ar-lein ar unrhyw adeg.

Mae’n dilyn gwaharddiad gwirfoddol gan hysbysebwyr a ddechreuodd ar 1 Hydref 1 y llynedd.

Nawr mae rhaid iddynt gydymffurfio â’r rheolau newydd neu fe allai yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) gymryd camau gweithredu yn eu herbyn.

Mae’r gwaharddiad yn berthnasol i gynhyrchion sy’n dod o fewn 13 categori sydd yn cael eu hystyried fel y rhai sy'n chwarae’r rôl bwysicaf mewn gordewdra ymhlith plant.

Maent yn cynnwys diodydd meddal, siocledi a melysion, pitsas a hufen iâ, ond hefyd grawnfwydydd brecwast ac uwd, cynhyrchion bara wedi’u melysu, a phrif brydau bwyd a brechdanau.

Dim ond cynhyrchion sy'n bodloni meini prawf sydd wedi'u cynnwys yn y cyfyngiadau. 

Gall cwmnïau barhau i hysbysebu fersiynau iachach o gynhyrchion sydd wedi'u cynnwys yn y gwaharddiad. Yn ôl Llywodraeth y DU y gobaith yw y bydd hyn yn annog y diwydiant bwyd i newid eu ryseitiau.

Ni fydd hysbysebion ar gyfer uwd plaen a'r rhan fwyaf o uwd, mwseli a granola yn cael eu gwahardd o dan y rheolau newydd. Ond er hynny fe allai rhai fersiynau llai iach gyda siwgr, siocled neu surop ychwanegol gael eu heffeithio.

Dim ond i hysbysebion lle gall gwylwyr adnabod cynhyrchion sy'n cael eu hystyried yn iach y bydd y cyfyngiadau'n berthnasol, sy'n golygu y gall cwmnïau barhau i hysbysebu enwau brandiau.

Gordewdra

Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU yn awgrymu bod un o bob 10 o blant oedran derbyn yn ordew, tra bod gan un o bob pump o blant bydredd dannedd erbyn pump oed.

Yn ôl y llywodraeth, mae tystiolaeth yn dangos y gall plant sy’n gweld hysbysebion am fwyd afiach gael eu dylanwadu ar yr hyn maen nhw'n ei fwyta o oedran ifanc, gan eu rhoi mewn mwy o berygl o fynd yn rhy drwm neu'n ordew.

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd y gwaharddiad ar hysbysebion yn atal tua 20,000 o achosion o ordewdra mewn plant.

Dywedodd Katherine Brown, athro newid ymddygiad mewn iechyd ym Mhrifysgol Swydd Hertford: “Mae hyn yn hen bryd ac yn gam i'r cyfeiriad cywir.

“Mae plant yn agored iawn i farchnata ymosodol o ran bwydydd afiach ac yn eu rhoi mewn mwy o berygl o ddatblygu gordewdra a chlefydau cronig cysylltiedig. 

"Ond rhaid i hyn fod yn rhan o strategaeth hirdymor, gynhwysfawr sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, yn cefnogi amgylcheddau bwyd lleol iachach ac yn gwneud opsiynau maethlon yn fwy fforddiadwy, hygyrch ac apelgar.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.