Newyddion S4C

Arolygwyr niwclear yn teithio i orsaf ynni Zaporizhzhya yn Wcráin

Sky News 29/08/2022
IAEA

Mae arolygwyr niwclear o'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol yn teithio i orsaf ynni Zaporizhzhya yn Wcráin ddydd Llun, er mwyn asesu diogelwch yr orsaf.

Yr orsaf niwclear yw'r un fwyaf o'i bath yn Ewrop, ac mae yn nwylo lluoedd Rwsia ers ymosodiad y Kremlin ar Wcráin ym mis Mawrth.

Bwriad ymweliad yr arolygwyr yw mesur diogelwch y safle ac amgylchiadau gweithio'r staff yno.

Dywedodd arweinydd yr arolygwyr, Rafael Grossi, fod disgwyl i'r arolygwyr gyrraedd y safle yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Darllenwch ragor yma.

Llun: IAEA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.