'Digwyddiad llygredd' ym Mhowys ar ôl i olew ollwng o danc ar safle hen ysgol

Ysgol Ardwyn

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod yna “ddigwyddiad llygredd” sydd yn effeithio pobl sy’n byw yn y Trallwng ar ôl i olew ollwng o danc yn hen ysgol yn y dref. 

Mae olew wedi gollwng o danc gwresogi yn hen safle Ysgol Ardwyn, meddai’r cyngor. 

Dywedodd bod “swm anhysbys” o olew wedi cael ei ollwng a bod hynny’n effeithio pobl sy’n byw yn y dref. Nid yw'r olew'n parhau i ollwng bellach.

Mae ‘na bosibilrwydd bod cyflenwadau dŵr wedi cael ei effeithio.

Dywedodd y cyngor y dylai pobl gysylltu â chwmni dŵr Hafren Dyfrdwy ar 0800 0858033 am gyngor petai ‘na newid i flas neu arogl dwr.

Maen nhw hefyd yn annog pobl i agor drysau a ffenestri petai eu bod yn arogli olew y tu fewn i’w tai.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o'r Trallwng wedi bod yn ymateb i’r sefyllfa yn ystod ddydd Mercher a dydd Iau. 

Maen nhw wedi bod yn defnyddio padiau a gronynnau amsugno i gael gwared ar yr olew sydd ar yr arwyneb ac i atal halogiad pellach o'r cyflenwad dŵr lleol.

Mae tirfeddiannwr safle’r hen ysgol yn ymwybodol o'r sefyllfa ac maen nhw wedi bod yn cymryd camau i wneud y safle'n ddiogel.

Mae Cyngor Sir Powys yn annog pobl leol sydd â chwestiynau i gysylltu â Diogelu'r Amgylchedd ar 01597 827 467.

Llun: Paul Fosh Auctions

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.