Newyddion S4C

Chwaraewr ifanc Fulham ar fin ymuno gyda charfan bêl-droed Cymru

The Independent 29/08/2022
Luke Harris

Mae chwaraewr 17 oed Fulham, Luke Harris, ar fin cael ei gynnwys yng ngharfan bêl-droed Cymru, yn ôl The Independent.

Mae Harris yn chwarae yng nghanol y cae ac wedi ei enwi ar y fainc yn ar gyfer tair allan o bedair gêm Fulham yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn.

Dechreuodd ei gêm gyntaf i'r clwb yn erbyn Crawley yng Nghwpan Carabao wrth i Fulham golli 2-0.

Mae disgwyl i Harris cael ei enwi yng ngharfan Rob Page wrth i Gymru wynebu Gwlad Belg a Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA ym mis Medi, gan gymryd lle ei gyd-chwaraewr yn Fulham, Harry Wilson.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.