Cyhoeddi enw arweinydd Reform UK yng Nghymru 'yn fuan iawn'
Mae un o gynghorwyr plaid Reform UK yn y de wedi dweud y bydd enw arweinydd y blaid yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi'n "fuan iawn."
Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 fore dydd Gwener, dywedodd y Cynghorydd Jason O'Connell, sydd yn aelod o Gyngor Torfaen, "y bydd y cyhoeddiadau hynny yn cael eu gwneud yn fuan iawn iawn".
Dywedodd fod ei blaid wedi bod yn "drylwyr iawn yn ein hasesiad o bobl all fod yn arweinydd ac mae disgwyl y cyhoeddiad hwnnw yn fuan iawn" ('imminently').
"Rydym yn deall y pwysigrwydd - rydym nid yn unig yn dewis arweinydd ond hefyd yn dewis prif weinidog y dyfodol, felly mae'n iawn ein bod yn cymryd ein hamser i sicrhau fod yr apwyntiad hwnnw yn un cywir," ychwanegodd.
Pedwar polisi
Wrth ymateb i'r honiad mai dim ond pedwar polisi oedd gan y blaid yn benodol i Gymru yn ei maniffesto, dywedodd Mr O'Connell y dylai - a bod gan - y blaid restr o bolisïau cynhwysfawr ar gyfer y wlad.
"Fe fyddwn yn cyhoeddi maniffesto llawn wrth i ni arwain i mewn i ymgyrch fer, yn union fel pob plaid arall, felly rydym wedi cyhoeddi nifer uchel o bolisïau penodol i Gymru fel cael gwared ar y terfyn cyflymder 20 milltir yr awr, a statws Cenedl Noddfa," meddai.
Dywedodd fod y statws hwnnw yn achos o "osod arwydd uwchben Cymru yn gwahodd pobl i mewn - nid ydym yn gwybod o ble maen nhw'n dod, nid ydym yn gwybod dim am eu cefndiroedd ac maen nhw'n rhoi pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, felly mae'n rhywbeth y maen rhaid i ni ymateb iddo."
Cenedl Noddfa
Pan ofynnwyd iddo pa ganran o'r £55m oedd yn cael ei wario ar bolisi Cenedl Noddfa oedd yn mynd ar gefnogi pobl oedd wedi dianc rhag y rhyfel yn Wcráin, dywedodd mai nid dadl am arian oedd eu gwrthwynebiad i bolisi Cenedl Noddfa, ond y "negeseuon" oedd yn cael eu hanfon i wedill y byd.
"Mae Cymru'n wlad fach," ychwanegodd.
Wrth ystyried fod 82% o wariant Cenedl Noddfa rhwng 2022-24 wedi mynd ar gefnogi ffoaduriad o ryfel Wcráin, gofynnwyd iddo os oedd hyn yn benderfyniad gwael.
"Na dydw i ddim," meddai, gan ychwanegu bod angen cynnig cymorth i bobl o gwmpas y byd oedd angen cymorth, "ond ni allwn gael polisi drws agored".
Fe wnaeth Nigel Farage, arweinydd Reform UK, ddatgan ym mis Mai y llynedd nad oedd am sefyll yn Etholiad Senedd Cymru, sydd yn digwydd ar 7 Mai.
Fe ddaeth y blaid yn ail i Blaid Cymru mewn is-etholiad yng Nghaerffili ym mis Hydref wedi marwolaeth yr aelod Llafur, Hefin David.
Cipiodd ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle, 47% o'r bleidlais.
Daeth ymgeisydd Reform UK, Llŷr Powell, yn ail ar 36%, a Llafur yn drydydd pell ar 11%.