Caerfyrddin: Trin ymosodiad honedig ar fenyw fel ymgais i lofruddio

Parc Caerfyrddin
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi diweddariad am ymosodiad honedig ar fenyw yng Nghaerfyrddin brynhawn dydd Iau.
 
Bellach mae swyddogion yn trin yr ymosodiad fel ymgais i lofruddio, ac maen nhw'n parhau i chwilio am ddyn yr oedd y fenyw yn ei adnabod mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
 
Fe ddioddefodd y fenyw anafiadau trywanu i'w llaw a'i chorff yn ystod yr ymosodiad.
 
Mewn datganiad yn hwyr nos Iau, dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i fod mewn nifer o leoliadau yn y drefn fel rhan o'r ymchwiliad.
 
Dywedodd y llu: "Mae swyddogion wedi bod yn ardaloedd Teras Picton a Pharc Caerfyrddin ers ychydig ar ôl 4pm heddiw (Dydd Iau, Ionawr 29) pan adroddwyd bod menyw wedi dioddef anafiadau trywanu tra yn y parc.
 
"Aethpwyd â'r dioddefwr i'r ysbyty, lle mae'n cael ei thrin am anafiadau i'w chorff a'i llaw.
 
"Mae dyn sydd dan amheuaeth – y mae'r ddioddefwraig yn ei adnabod – wedi'i adnabod, ac mae ymholiadau'n parhau i'w leoli a'i arestio."
 
'Achos pryder'
 
Dywedodd y Ditectif  Uwch-arolygydd Anthony Evans: “Rwy’n ymwybodol bod hwn yn ddigwyddiad sy’n achosi pryder yn yr ardal, ac rwyf am sicrhau’r gymuned leol fod ein swyddogion yn dilyn pob ymholiad bosibl i leoli ac arestio’r sawl a ddrwgdybir cyn gynted â phosibl.
 
“Byddwch yn parhau i weld yr heddlu yn yr ardaloedd o amgylch Teras Picton, Parc Caerfyrddin a chyfeiriadau eraill wrth i ni ymchwilio i’r digwyddiad erchyll hwn.
 
“Hyd yn hyn, mae ein hymholiadau wedi ein harwain i ddeall nad ymosodiad ar hap oedd hwn, a bod yr un a ddrwgdybir a’r dioddefwr yn adnabod ei gilydd. 
 
"Rydym bellach yn chwilio am ddyn sydd wedi ei enwi i ni, ac os bydd angen cymorth y cyhoedd arnom i’w leoli, byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth."
 
Ychwanegodd: “Os oeddech chi ym Mharc Caerfyrddin tua 16:00 heddiw ac wedi gweld unrhyw ymddygiad y byddech chi’n ei ystyried yn amheus, neu unrhyw un yn gadael yr ardal ar gyflymder, mae croeso i chi gysylltu â ni.”
 
Llun: Cyngor Tref Caerfyrddin

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.