Ymdrech i gofnodi caneuon gwerin Cymru yn ysbrydoli drama newydd

Llun: Lafan
Ledi'r Wyrcws

Fe wnaeth ymdrech i arbed caneuon gwerin Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf ysbrydoli drama lwyfan newydd fydd yn mynd ar daith yn fuan.

Cafodd drama Ledi'r Wyrcws ei hysbrydoli gan hanes Y Foneddiges Amy Parry-Williams, wedi iddi recordio caneuon gwerin mewn wyrcws yn Sir Dinbych yn ystod y 50au.

Yr Athro Jerry Hunter yw awdur y ddrama, ac fe fydd Morfudd Hughes, Owen Arwyn a Judith Humphreys yn ei pherfformio ledled Cymru.

Dywedodd Jerry Hunter, sydd yn wreiddiol o'r Unol Daleithiau ond bellach yn byw yn Nyffryn Nantlle, bod stori'r Fonesig Parry-Williams wedi dal ei ddychymyg.

Image
Ledi'r Wyrcws
Llun: Lafan

“Cyfeiriodd aelod o gymdeithas Cymraeg y bum yn annerch mewn capel yn ardal Dinbych at hen adeilad yr ochr arall i’r stryd wedi fy narlith — gan nodi taw dyna oedd hen wyrcws ble recordiodd Ledi Amy Parry-Williams rai o’i chaneuon gwerin gorau gan wreigan a oedd yn byw yno yny 50au," meddai.

“Cydiodd y stori yn fy nychymyg yn syth a dechreuais gofyn cwestiynau i mi fy hun, megis pwy oedd y wraig honno a pham oedd hi wedi diweddu yn y wyrcws? Pa fath o sgyrsiau gafodd Amy Parry-Williams â hi ‘rhwng y caneuon’, fel petai? A pham bod wyrcws yn dal i sefyll yr 1950au; oes yr NHS newydd?

“Roedd yn ddifyr felly meddwl am y ddwy wraig yn treulio diwrnod yng nghwmni’i gilydd - y ddwy’n amlwg yn trysori’r un diwylliant ond yn dod o gefndiroedd ac yn byw mewn amgylchiadau mor wahanol. 

"Drama lwyfan oedd y cyfrwng amlwg i archwilio sefyllfa o’r fath.”  

Fe fydd y ddrama yn teithio ledled Cymru rhwng mis Mawrth ac Ebrill yn y lleoliadau canlynol:

04 – 05 Mawrth | Galeri Caernarfon 

07 Mawrth | Twm o’r Nant 

10 Mawrth | Theatr Clwyd 

13 Mawrth | Theatr Derek Williams 

17 – 18 Mawrth | Theatr Arad Goch 

19 Mawrth | Yr Egin 

20 Mawrth | Theatr Felinfach 

24 Mawrth | Theatr Soar 

25 Mawrth | Canolfan Gelf Pontardawe 

26 Mawrth | Yr Olwg 

28 Mawrth | Neuadd Llanofer  

01 Ebrill | Neuadd Dwyfor 

02 Ebrill | Pontio 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.