Pont y Borth: 'Ymlaen i'r 200 mlynedd nesaf dim ond iddi gael ei chynnal a'i chadw'

Pont y Borth

Fe fydd Pont y Borth "yma am 200 mlynedd arall dim ond iddi gael ei chynnal a'i chadw" yn ôl cyn-beiriannydd sifil ac ymddiriedolwr yng Nghanolfan Thomas Telford ar Ynys Môn.

Mae'r bont eiconig, sydd yn cysylltu Môn a'r tir mawr, yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed ddydd Gwener.

Fe gafodd Pont Menai, neu Bont y Borth fel mae'n cael ei hadnabod yn lleol, ei hadeiladu gan y peiriannydd sifil Thomas Telford ym 1826.

Ychydig flynyddoedd cyn hyn, fe gychwynnodd Telford waith ar wella'r ffordd o Lundain i Gaergybi, gan weld y perygl o deithio ar draws y Fenai gyda gwyntoedd y môr yn gryf iawn. 

Yn sgil hyn, fe benderfynodd ddylunio Pont y Borth sef pont grog fwyaf y byd ar y pryd. 

Mae Gareth Jones yn gyn-beiriannydd sifil ac yn ymddiriedolwr yng Nghanolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy. 

Mae'r ganolfan yn amgueddfa sydd yn egluro hanes Pont y Borth a Phont Britannia yn ogystal â chynnig gwybodaeth am hanes tref Porthaethwy hefyd. 

Dywedodd Mr Jones wrth Newyddion S4C: "Ma 200 mlynedd yn dipyn o garreg filltir i unrhyw strwythur. 

"Ma' hi’n hollol unigryw ac arloesol. Pan gafodd hi ei hadeiladu, doedd ‘na ddim byd tebyg iddi wedi ei gwneud o’r blaen. 

"Oedd ‘na bontydd crog cymharol fach wedi eu gwneud ond oedd hon ar ben ei hun a dim byd tebyg iddi. 

"Mi oedd Telford yn hollol arloesol yn be naeth o."

Image
Gareth Jones
Mae Gareth Jones yn gyn-beiriannydd sifil ac yn ymddiriedolwr yng Nghanolfan Thomas Telford.

Fe wynebodd y bont heriau ar y dechrau un yn ôl Mr Jones. 

"Yn y dechrau un digwydd bod, y noson oedd hi’n cael ei hagor ym mis Ionawr, oedd hi’r storm mwyaf ofnadwy a o’dd y bont yn ysgwyd yn arw a oeddan nhw’n meddwl y basa hi’n torri," meddai. 

"O ganlyniad i be o’dd yn digwydd, oeddan nhw’n dysgu bod effaith y gwynt yn fwy arni nag oeddan nhw wedi ei dybio wedyn ma' nhw wedi gorfod cryfhau ag ati fwy nag unwaith."

Image
Cynllun gwreiddiol Thomas Telford i adeiladu pont ar draws y Fenai
Cynllun gwreiddiol Thomas Telford i adeiladu pont ar draws y Fenai

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf y bydd gwaith atgyweirio ar y bont yn parhau tan o leiaf dechrau 2027.

Yn wreiddiol roedd disgwyl i’r gwaith ddod i ben yn y gwanwyn eleni.

Fe ddywedodd Mr Jones fod yr amseru yn "anffodus" ond fod y gwaith atgyweirio yn "orfodol".

"O ganlyniad i’r archwilio, mi wnaethon nhw ffeindio bod ‘na broblemau efo hi. 

"Yn naturiol, oedd rhaid bod yn ofalus a rhoi cyfyngiadau arni fel pwysau. Ma gwneud gwaith ar bont fel hyn, dydi o ddim yn beth mor hawdd â hynny," meddai.

"Ma' hi’n anhygoel bod hi wedi para cyn gymaint, a mi barith eto ‘mond iddi gael ei chynnal a’i chadw."

Image
Pont Menai
Mae'r bont wedi cael ei thrawsnewid ar hyd y blynyddoedd

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, fe wnaeth Mr Jones gydnabod fod yna heriau yn wynebu'r bont. 

"Ma’ peintio’r bont yn hollbwysig ac ers talwm, doedd ‘na ddim gymaint o ymwybyddiaeth efo llygredd ac ati ond rŵan, os ‘dan ni isio paentio, ma’ pobl yn ymwybodol iawn efo y Fenai ac ati wedyn pan ma’ nhw’n paentio’r bont, ma’ nhw’n gorfod gofalu nad oedd dim o’r paent ac ati yn mynd i’r dŵr," meddai. 

"Mae angen i ni fod yn llawer mwy gofalus ac ymwybodol o’r amgylchedd yn yr oes sydd ohoni.

Ychwanegodd Mr Jones: "Y sialens ydi bod isio cynnal a chadw’r bont ar gost yn naturiol, ond dio’m yn byd na fedar neb ei oresgyn, ‘mond fatha bob dim arall.

"Ma’ hi wedi bod yma am 200 mlynedd, ac mi fydd hi yma am 200 mlynedd arall ‘mond iddi gael ei chynnal a’i chadw. 

"Ma hi’n eicon unigryw a ma’r ffaith bod hi wedi cau a’r trafferthion yn dangos gymaint o ddefnydd mae pobl yn neud ohoni hi a mor bwysig ydi hi i’r ardal."

Fe fydd dathliadau lu yn cael eu cynnal dros y dyddiau nesaf yn ogystal ag yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda chofeb yn cael ei dadorchuddio yn nhref Porthaethwy i gydnabod y digwyddiad.

Fe gafodd cyfarfod preifat ei gynnal ddydd Iau yng Nghanolfan Thomas Telford gydag aelodau o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o Lundain yn bresennol.

"Ma' hynny yn dangos gymaint ma' Telford a'r bont yn ei olygu i'r diwydiant peirianneg sifil," meddai Mr Jones. 

"O fewn y diwydiant, ma’ ‘na barch mawr a cydnabyddiaeth am y peth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.