Abertawe: 200 o gyn-weithwyr cwmni ynni gwyrdd i ddwyn achos cyfreithiol
Mae cyfreithiwr sy’n cynrychioli dros 200 o gyn-weithwyr cwmni ynni o Abertawe aeth i ddwylo'r gweinyddwyr yn dweud eu bod yn bwriadu dwyn achos cyfreithiol i geisio hawlio taliadau diswyddo ar eu rhan.
Yn gynharach y mis hwn, daeth cadarnhad bod cwmni Consumer Energy Solutions, oedd yn gosod systemau gwresogi mewn cartrefi fel rhan o gynllun ECO4 Llywodraeth y DU wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a rhoi'r gorau i fasnachu'n syth.
Yn ôl y gweinyddwyr a gymerodd gyfrifoldeb am asedau’r cwmni, fe wnaeth y mwyafrif o’r 295 o bobl oedd yn gweithio i Consumer Energy Solutions (CES) ar draws Cymru — gyda chanolfannau yn Abertawe, Treorci a Bangor — golli eu swyddi.
Mae Newyddion S4C ar ddeall bod cannoedd o weithwyr oedd wedi eu his-gontractio gan y cwmni hefyd wedi colli eu gwaith.
Mae cwmni cyfreithiol CFS Redundancy Payments, sydd a’i bencadlys yn Cheadle, Sir Gaer, wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C eu bod yn bwriadu dwyn achos ar ran dros 220 o gyn-weithwyr y cwmni.
Achos cyfreithiol
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd James Lewis o'r cwmni eu bod yn dwyn yr achos cyfreithiol gan ddadlau bod CES wedi torri’r gyfraith drwy beidio cynnig cyfnod ymgynghori digonol i’w gweithwyr, cyn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan weinyddwyr CES, KR8 Advisory.
Dywedodd James Lewis: “Fe wnaeth sawl cyn-weithiwr gysylltu gyda ni ar ôl iddynt gael eu diswyddo. Bellach mae o gwmpas 220 wedi cysylltu.
“Rydym yn bwriadu gwneud hawliad dyfarniad amddiffynnol ar eu rhan. Mae hyn ar wahân i’w hawliadau statudol, ac yn cael ei wneud ar sail bod tor-cyfraith wedi bod yn y ffordd y cafwyd eu diswyddo.”
Ymgynghori
Yn ôl y cwmni, pan mae dros 100 o bobl yn cael eu diswyddo, mae’n rhaid i gwmni rhoi cyfnod ymgynghori o 30 diwrnod cyn cadarnhau’r diswyddiadau.
Maent yn honni nad oedd y cyfnod ymgynghori a roddwyd gan CES wedi cyrraedd 30 diwrnod.
Mae’r cwmni yn y broses o glywed gan ragor o gyn-weithwyr CES sy’n dymuno bod yn rhan o’r hawliad, cyn cyflwyno'r cais fis nesaf.
Pe byddai’r achos yn llwyddiannus, fe fyddai gweithwyr yn derbyn taliadau diswyddo gan y Gwasanaeth Taliadau Diswyddo, sydd yn rhan o’r Swyddfa Yswiriant Cenedlaethol.
Fe alla’i broses gymryd hyd at flwyddyn ar ôl cyflwyno’r cais, yn ôl Mr Lewis.
Fe allai cyn weithwyr hefyd wneud ceisiadau ar wahân ar gyfer gweddill eu hawliau statudol, sydd yn cynnwys hawlio am dâl rhybudd, cyflogau heb eu talu a thâl gwyliau.
Mewn datganiad ar ôl cymryd rheolaeth o asedau CES yn gynharach mis hwn, dywedodd KR8 Advisory “eu bod yn gweithio i gefnogi cyn-weithwyr i chwilio am gyflogaeth newydd ac i hawlio eu hawliau diswyddo.”
Roedd CES yn is-gwmni i grŵp City Energy, sydd yn parhau i fasnachu fel arfer, yn ôl y gweinyddwyr.