Tro pedol ar benderfyniad i gynnwys Ryan Giggs yn 'Neuadd Enwogion' pêl-droed yn 2020

Ryan Giggs
Huw Evans Agency

Fe wnaeth Uwch Gynghrair Lloegr dro pedol ar benderfyniad i gynnwys y Cymro Ryan Giggs yn 'Neuadd Enwogion' pêl-droed yn 2020, pan oedd rheolwr Cymru yn y penawdau ar y pryd.

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnwys Giggs - a chwaraeodd 963 o gemau i Manchester United gan ennill 13 o deitlau Uwch Gynghrair Lloegr, sy'n parhau yn record - gydag Alan Shearer fel aelodau cyntaf Neuadd yr Enwogion ('Hall of Fame') yr Uwch Gynghrair.

Cafodd y seremoni gyntaf ei gohirio yn 2020 o achos y pandemig Covid-19, a phan gafodd ei hail-drefnu yn 2021 roedd enw Giggs wedi ei ollwng o restr yr enwogion, gyda Thierry Henry yn dod yn ei le.

Cafodd achos cyfreithiol yn erbyn Ryan Giggs oedd yn wynebu honiadau o drais a rheolaeth drwy orfodaeth ei ollwng ym mis Gorffennaf 2023, ar ôl iddo gael ei gyhuddo yn 2021.

Roedd Giggs i fod i sefyll ei brawf am yr eildro, wedi’i gyhuddo o ymddygiad o orfodaeth neu reolaeth dros ei gyn-gariad Kate Greville rhwng Awst 2017 a Thachwedd 2020. Roedd wedi ei gyhuddo hefyd o ymosod ar chwaer Ms Greville

Fe ddaeth achos llys blaenorol yn erbyn Mr Giggs i ben yn 2022 gyda'r rheithgor yn methu dod i ddyfarniad.

Roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Y gred yw bod Uwch Gynghrair Lloegr wedi bod mewn trafodaethau gyda Ryan Giggs yn y misoedd diwethaf i drafod y sefyllfa am ei gynnwys yn Neuadd yr Enwogion.

Mewn datganiad, nad oedd yn enwi Giggs yn uniongyrchol, dywedodd llefarydd ar eu rhan:

“Dewisir rhestr fer neuadd yr enwogion yn ôl disgresiwn yr Uwch Gynghrair ar ôl ymgynghori ag aelodau panel gwobrau’r Uwch Gynghrair. 

"Penderfynir ar yr aelodau terfynol bob blwyddyn gan aelodau presennol neuadd yr enwogion. 

"Adolygir y rhestr fer yn flynyddol gyda nifer o ffactorau’n cael eu hystyried gan gynnwys data pleidleisio blaenorol ar y rhestr fer, cyfnodau, safleoedd a chyflawniadau chwaraewyr. 

"Daw chwaraewyr newydd sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer dewis yn gymwys ar ôl iddynt ymddeol o bêl-droed broffesiynol.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.