Donald Trump yn rhybuddio Keir Starmer am 'beryglon' closio at Tsieina
Mae Donald Trump wedi rhybuddio y byddai'n "beryglus" i Brydain wneud busnes gyda Tsieina, wrth i Syr Keir Starmer geisio cryfhau'r cysylltiadau economaidd gyda Beijing ar ddiwrnod olaf ei ymweliad a'r wlad.
Fe wnaeth Mr Starmer gyfarfod gyda Phrif Weinidog ag Arlywydd Tsieina Xi Jinping ddydd Iau wrth iddo ddadlau'r achos dros berthynas "fwy soffistigedig" rhwng y ddwy wlad.
Wrth gael ei holi gan ohebwyr yn gynnar ddydd Gwener am ymdrechion y DU i gryfhau cysylltiadau economaidd â Tsieina, lleisiodd Mr Trump ei anfodlonrwydd gyda'r sefyllfa.
"Wel, mae'n beryglus iawn iddyn nhw wneud hynny, ac mae hyd yn oed yn fwy peryglus, rwy'n credu, i Ganada fynd i fusnes â Tsieina," meddai.
Ychwanegodd fod Canada yn gwneud yn "wael" a dywedodd "na allwch edrych ar Tsieina fel yr ateb".
Fe wnaeth Prif Weinidog Canada, Mark Carney, ymweld â Tsieina yn gynharach ym mis Ionawr wrth i'r ddwy wlad geisio cryfhau eu cysylltiadau economaidd, gan ddod i gytundeb i dorri tariffau ar nwyddau penodol.
Tariff
Yn ddiweddarach, fe wnaeth Mr Trump fygwth Canada gyda thariff o 100% ar allforion pe bai Canada yn ymuno â chytundeb masnach rydd â Tsieina, ond gwadodd Mr Carney unrhyw fwriad i greu'r fath gytundeb.
Bydd ymweliad Syr Keir â Tsieina yn dod i ben ddydd Gwener.
Bydd yn cwrdd â busnesau yn Beijing wrth iddo barhau â'i ymdrechion i gryfhau cysylltiadau economaidd â Tsieina ar ddiwrnod olaf ei ymweliad â'r wlad.
Bydd y Prif Weinidog yn teithio i Shanghai yn ddiweddarach cyn gadael am Tokyo i gwrdd â Phrif Weinidog Japan, Sanae Takaichi.
Dywedodd swyddogion Llywodraeth y DU fod yr Unol Daleithiau yn ymwybodol o daith Syr Keir a'i amcanion cyn iddo fynd i'r wlad, gan gyfeirio at ymweliad Mr Trump ei hun â Tsieina fydd yn digwydd ym mis Ebrill.
Cyn ei daith, dywedodd Syr Keir wrth Bloomberg na fyddai’n dewis rhwng Washington a Beijing: “Rwy’n aml yn cael fy ngwahodd i ddewis rhwng gwledydd... dydw i ddim yn gwneud hynny,” meddai.
“Mae gennym ni berthynas agos iawn â’r Unol Daleithiau, wrth gwrs rydyn ni eisiau gwneud hynny a byddwn ni’n cynnal y busnes hwnnw, ochr yn ochr â diogelwch ac amddiffyn.
“Yn yr un modd, ni fyddai rhoi eich pen yn y tywod ac anwybyddu Tsieina pan mai hi yw’r ail economi fwyaf yn y byd ac mae cyfleoedd busnes yno yn synhwyrol.”
Mae gwrthwynebwyr gwleidyddol y Prif Weinidog wedi ei gyhuddo o “ymostwng” ei hun i Mr Xi yn ystod ei ymweliad.