Conwy: Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55

Gwrthdrawiad Conwy

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 yn Sir Conwy.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Forfa Conwy tua 12.00 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a lori ger cyffordd 17 ar yr A55.

Cafodd y gwasanaethu achub hefyd eu galw, ond bu farw dynes yn ei 40au, oedd yn teithio tua'r gorllewin yn y car, yn y fan a’r lle.

Cafodd dau berson eu cludo i ysbytai yn Stoke ac Aintree gydag anafiadau difrifol, tra bod trydydd person wedi'i gludo i Aintree mewn ambiwlans.

Roedd y pedwar person yn teithio yn yr un car.

Mae gyrrwr y lori yn cynorthwyo’r llu gyda’u hymholiadau ar hyn o bryd.

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng twneli Penmaenmawr a Chonwy am rai oriau brynhawn Iau.

Mae bellach wedi ailagor tua'r dwyrain wrth gyffordd 16, ac wedi agor yn rhannol tua'r gorllewin.

Mae Uned Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i gynnal ymchwiliadau yn y lleoliad.

Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan: “Hoffwn rannu fy nghydymdeimladau dwysaf gyda theulu’r ddynes yn ystod y cyfnod hynod anodd yma, ac mae fy meddyliau gyda phawb arall oedd ynghlwm â’r gwrthdrawiad.

“Rydw i’n apelio ar unrhyw un a wnaeth weld y digwyddiad, neu sydd â lluniau dashcam, i’w rhannu gyda ni mor fuan a sy’n bosib.”

Mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod O014887.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.