Athrawon Dyffryn Aman ar restr fer Gwobrau Dewi Sant 2026

Athrawon Dyffryn Aman

Mae tri athro o Ysgol Dyffryn Aman ar restr fer Gwobrau Dewi Sant 2026, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog Eluned Morgan ddydd Gwener.

Mae Liz Hopkin, Fiona Elias a Darrel Campbell wedi eu henwebu yn y categori Dewrder.

Mae’n gydnabyddiaeth meddai’r gwobrau am eu “dewrder anhygoel” yn ystod ymosodiad cyllell yn eu hysgol ar 24 Ebrill 2024.

Yn y digwyddiad, cafodd y Dirprwy Bennaeth Fiona Elias, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Liz Hopkin, ac un o’r disgyblion, eu trywanu.

Llwyddodd y cyn-Bennaeth Cynorthwyodd Darrel Campbell i ddiarfogi'r ymosodwr ac atal niwed pellach.

Fe gafodd merch 14 oed ei dedfrydu i 15 o flynyddoedd dan glo am yr ymosodiad ym mis Ebrill y llynedd.

“Trwy eu gweithredoedd, fe wnaethon nhw lwyddo i osgoi trasiedi waeth, a chynnal y safonau uchaf o uniondeb, anhunanoldeb, ac ymrwymiad i gymuned yr ysgol gyfan,” meddai’r gwobrau.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan ei fod yn “fraint” cael cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Dewi Sant. 

“Mae'n dod â'r goreuon o Gymru ynghyd, ac yn dangos enghreifftiau gwych inni o'r cyfraniad cadarnhaol y gall pobl ei wneud i fywydau pobl eraill,” meddai.

“Mae gennym restr fer anhygoel eleni, sy'n llawn straeon ysbrydoledig a phobl sydd wedi cyflawni pethau mawr."

Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ym mhob categori yn cael eu dewis gan banel annibynnol. 

Mae'r enillwyr yn cael eu dewis gan y Prif Weinidog.

Dewrder

Hefyd wedi ei enwebu am y wobr dewrder mae James Reilly, cyn-gomando gyda’r Peirianwyr Brenhinol.

Achubodd ddynes oedd wedi mynd i drafferthion mewn dyfroedd rhewllyd ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ger Treffynnon.

Mae William Newbury o Ben-y-bont ar Ogwr hefyd ar y rhestr ar ôl achub mam a’i babi  digwyddiad erchyll yng Nghaerdydd ar 30 Mawrth 2025.

Wrth ymweld â ffrindiau yn ardal Llanrhymni, clywodd William sgrechian ofnadwy a darganfod ei ffrind Emily Drew a'i babi newydd-anedig dan ymosodiad gan dri chi y tu mewn i'w cartref. 

Aeth i mewn i'r eiddo trwy ffenestr, gan ddiogelu'r babi yn gyflym mewn cadair wthio a’i roi tu allan i’r tŷ. 

Wrth i'r cŵn barhau i ymosod, helpodd William Emily i ddianc drwy'r ffenestr, gan ei chau y tu ôl iddi rhag i’r cŵn eu dilyn.

Categoriau

Mae’r categoriau eraill yn cynnwys:

  • Busnes
  • Dewrder
  • Arwr Cymunedol
  • Diwylliant
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Gwasanaeth Cyhoeddus
  • Chwaraeon
  • Gwirfoddolwr
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Mae rhestr llawn o’r enwebiadau i’w gweld fan hyn.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.