Cynnal ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth menyw yn Nhorfaen
28/08/2022
Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw 53 oed ar Ffordd Redbrook yng Nghwmbrân yn Nhorfaen.
Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad yno am tua 07.25 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau o ymosod.
Cludwyd y fenyw i’r ysbyty ond bu farw o’i hanafiadau yn hwyrach.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn 48 oed lleol ar amheuaeth o lofruddio ac mae e’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 2200291088.
Llun: Google