Minnesota yn ‘falch’ o weld pennaeth mewnfudo yn gadael

Gregory Bovino

Mae Twrnai Cyffredinol Minnesota yn yr Unol Daleithiau wedi dweud bod pobl y dalaith yn “falch” o weld un o benaethiaid mewnfudo’r llywodraeth ffederal yn gadael. 

Bydd Gregory Bovino (uchod), Cadeirydd Patrôl Ffiniau’r Unol Daleithiau, yn gadael y dalaith ddydd Mawrth ar ôl cael ei symud oddi yno gan Lywodraeth Donald Trump. 

Daw hyn wrth i’r Tŷ Gwyn ymateb i feirniadaeth eang yn sgil achosion o saethu gan swyddogion ffederal a laddodd dau berson yn ninas Minneapolis yn y dyddiau diwethaf.

Fe gafodd Renée Good, 37 oed, ei saethu’n farw gan asiant o’r asiantaeth Immigration and Customs Enforcement (ICE) yn y ddinas ar 7 Ionawr. 

Yna fe gafodd Alex Pretti, 37 oed, a wasanaethodd fel nyrs mewn uned gofal dwys (ICU), ei saethu’n farw gan asiant o asiantaeth ffederal ddydd Sadwrn.

Roedd Gregory Bovino wedi honni bod Pretti wedi bwriadu ymosod ar y swyddogion, honiad sydd heb ei gefnogi gan dystiolaeth fideo o’r digwyddiad. 

Galwodd teulu Alex Pretti ar y llywodraeth i roi’r gorau i “daenu celwyddau afiach” amdano.

Dywedodd Keith Ellison, Twrnai Cyffredinol y dalaith, bod "pobl Minnesota wedi cael hen ddigon o Mr Bovino". 

“Maen nhw’n falch o’i weld yn gadael," meddai. "Mae’r gymuned wedi’i thorri ei chalon a’r ddinas wedi’i chythruddo.

"Roedd 50,000 o bobl wedi gorymdeithio mewn tywydd rhewllyd, y dydd cyn i Mr Pretti gael ei saethu.

“Felly mae pobl wir wedi ypsetio ac mae Bovino yn gadael yn beth da.”

Bydd Tom Homan — sydd wedi gwasanaethu fel swyddog mewnfudo dan dwy arlywyddiaeth, Donald Trump a Barack Obama — yn cymryd lle Gregory Bovino wrth arwain yr ymdrechion yn erbyn mewnfudo anghyfreithlon yn y ddinas.

Llun: Steven Garcia / Reuters Connect

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.