Hanner cant o ASau Llafur yn gwrthwynebu rhwystro Andy Burnham
Mae tua 50 o aelodau seneddol Llafur wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog gan alw arno i ail-ystyried rhwystro Andy Burnham rhag sefyll fel aelod seneddol.
Roedd Syr Keir Starmer wedi dadlau y byddai caniatáu i Andy Burnham sefyll yn etholiad Gorton a Denton yn golygu cynnal etholiad costus ar gyfer ei swydd bresennol, sef Maer Manceinion.
Erbyn hyn mae tua 50 o ASau Llafur wedi ysgrifennu at Syr Keir Starmer i rybuddio bod y penderfyniad yn "rhodd go iawn" i blaid Reform UK.
Fe ddywedon nhw fod arolygon barn yn awgrymu mai Burnham oedd â’r "siawns orau i ennill" sedd wag Gorton a Denton i ’r Blaid Lafur.
Dywedodd y llofnodwyr nad oedd "unrhyw reswm cyfreithlon" i rwystro Burnham, ac maen nhw wedi gofyn i Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) y Blaid Lafur i "ailwerthuso" eu penderfyniad.
Roedd y NEC, sy'n cynnwys Syr Keir, wedi dweud y byddai rhwystro Burnham yn "osgoi etholiad diangen" ar gyfer swydd Maer Manceinion pe bai'n llwyddiannus yn yr is-etholiad.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai hynny wedi dargyfeirio adnoddau Llafur i ffwrdd o etholiadau pwysig eraill.
Mae etholiad Senedd Cymru, Senedd yr Alban a nifer o etholiadau lleol yn Lloegr yn cael eu cynnal ar 7 Mai.
"Mae angen canolbwyntio adnoddau, boed hynny'n arian neu'n bobl, ar yr etholiadau y mae'n rhaid i ni eu cael, nid etholiadau nad oes rhaid i ni eu cael," meddai'r Prif Weinidog.
"A dyna oedd sail penderfyniad y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol."
Y cefndir
Dros y penwythnos, fe ddywedodd Burnham y byddai’n hoffi sefyll yn yr is-etholiad Gorton a Denton, wedi i'r aelod presennol, Andrew Gwynne, gyhoeddi ei fod yn bwriadu camu lawr am resymau iechyd.
Ond ddydd Sul, fe benderfynodd Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y Blaid Lafur ei atal rhag gwneud.
Mae Burnham yn Faer Manceinion ond mae'n cael ei weld fel person sydd eisiau herio arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Keir Starmer. I hynny ddigwydd, mae'n rhaid iddo fod yn Aelod Seneddol.
Mae'r newyddion wedi rhwygo’r Blaid Lafur, gyda’r AS John McDonnell yn dweud na ddylai Starmer "danbrisio'r teimlad o ddicter y bydd pobl yn teimlo am y penderfyniad ffiaidd yma".
Dywedodd yr AS Rachael Maskell hefyd wrth Radio 4 y dylai'r penderfyniad fod wedi cael ei wneud gan "bobl gyffredin" yr etholaeth.
Ond mae eraill wedi cefnogi'r pwyllgor gweithredol.
Yn ôl Ysgrifennydd Llywodraeth Leol y Blaid Lafur, Steve Reed, mae'r newyddion yn "siomedig i Andy" ond yn "newyddion da i bobl Manceinion am ei fod yn gwneud gwaith mor dda yno fel maer".
Mae Ysgrifennydd yr Alban, Douglas Alexander, hefyd wedi dweud wrth y BBC bod atal Burnham wedi golygu nad oedd dim "misoedd o seicodrama" am ddigwydd rŵan.
"I siarad yn blaen, pe bai penderfyniad gwahanol wedi’i wneud ddoe, dwi'n meddwl y byddai yna bosibilrwydd o fisoedd o seicodrama: 'pwy sydd mewn, pwy sydd allan, pwy sydd ar i fyny, pwy sydd ar i lawr yn San Steffan'.
"Dwi wir yn credu bod sgyrsiau fel hynny yn rhai mae'r cyhoedd yn eu casáu."
Llun gan PA / James Speakman.