Newyddion S4C

Sarjant yn cael ei saethu gan filwr oedd â ‘nam golwg’

The National - Wales 28/08/2022
Sarjant Gavin Hillier

Cafodd Sarjant yn y Gwarchodlu Cymreig ei saethu a’i ladd gan filwr oedd â “golwg diffygiol” yn ôl ymchwiliad.

Bu farw Sarjant Gavin Hillier ar ôl cael ei saethu yn ystod ymarfer yng Nghastellmartin yn Sir Benfro ar 4 Mawrth 2021.

Dywedodd yr ymchwiliad nad oedd y milwr, Gwarchodfilwr 1, a saethodd Sarjant Hillier yn gwisgo sbectol presgripsiwn ar y pryd.

Ychwanegodd yr ymchwiliad fod Sarjant Hillier wedi cael ei gamgymryd am darged saethu.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Llun teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.