Apêl heddlu yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhowys
28/08/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad yn ne Powys.
Bu farw dyn oedd yn gyrru beic modur Suzuki glas mewn gwrthdrawiad gyda fan wen ar ffordd yr A470 ger Llandefalle am tua 17.00 nos Sadwrn.
Fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Bu’n rhaid cau’r ffordd tan oriau mân fore dydd Sul yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod DP-20220827-275.