Olivia Pratt-Korbel: Apêl newydd am enw’r llofrudd

Mae Heddlu Glannau Mersi wedi gwneud apêl newydd am enw’r person oedd yn gyfrifol am ladd y ferch naw oed Olivia Pratt-Korbel.
Cafodd ei saethu yn ystod ymosodiad yn ardal Dovecot o’r ddinas nos Lun.
Mae dau ddyn gafodd eu harestio ar amheuaeth o'i llofruddio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ac un ohonyn nhw wedi ei ddychwelyd i'r carchar.
Dywedodd yr heddlu fod unrhyw un sy’n dal yn ôl enwau'r bobl sy’n gyfrifol am saethu’n farw tri o bobl yn y ddinas gan gynnwys Olivia “yn gwarchod lladdwyr.”
Roedd marwolaeth Olivia yn un o bedwar ym mis Awst yn sgil troseddau gyniau a chyllyll.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Heddlu Glannau Mersi