Cwmni dŵr potel yn dal i dynnu dŵr wrth i drigolion wynebu cyfyngiadau

Mae cwmni dŵr potel yn Sir Benfro yn dal i dynnu miliynau o litrau o ddŵr wrth i drigolion y sir wynebu cyfyngiadau yn dilyn cyfnod o sychder yn ôl ffermwyr lleol.
Cwmni rhyngwladol Nestlé sy'n berchen ar gwmni Princes Gate ger Arberth ac mae cymdogion yn honni fod yr amgylchedd lleol o gwmpas y ffatri poteli wedi newid.
Mae’r cwmni yn gobeithio cael trwydded i dynnu i fyny at 314 miliwn litr y dydd o’r ffynnon naturiol.
Yn ôl ffermwyr lleol mae nentydd a thiroedd yn yr ardal wedi sychu.
Mae gwaharddiad dros-dro ar ddefnyddio pibell ddŵr yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin wedi bod mewn grym ers 18 Awst, yn dilyn cyfnodau o wres eithafol yn ystod y misoedd diwethaf.
Darllenwch fwy yma.