Heddlu’n symud grŵp protest yn ystod Pride Cymru

Fe wnaeth Heddlu De Cymru symud grŵp o lesbiaid oedd yn protestio yn ystod gorymdaith Pride yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu bod eu swyddogion wedi "cyfathrebu â grŵp protest bach a oedd wedi ymgasglu ar lwybr yr orymdaith er mwyn ei rhwystro rhag parhau".
Fe ddywedodd trefnwyr yr orymdaith fod grŵp wedi tarfu ar yr orymdaith.
Ychwanegodd yr heddlu ni chafodd unrhyw un ei arestio.
Mewn datganiad dywedodd yr heddlu: "Er mwyn atal unrhyw un rhag tarfu ar yr orymdaith ymhellach, fe wnaeth swyddogion ofyn i'r grŵp symud i leoliad gerllaw, ac fe gytunon nhw i hynny."
"Fe esboniodd swyddogion pam fod angen iddyn nhw symud, yn osgytal â rhoi cyngor ar brotestio'n gyfreithlon a chynnig i'w cynorthwyo i wneud hynny."
Darllenwch fwy yma.