Newyddion S4C

Carnifal Notting Hill

Carnifal Notting Hill yn dychwelyd i strydoedd Llundain

ITV News 28/08/2022

Mae carnifal Notting Hill yn cael ei gynnal yn Llundain ddydd Sul am y tro cyntaf ers 2019.

Mae disgwyl i filiynau o bobl ymgynnull ar hyd strydoedd gorllewin Llundain.

Fe fydd strydoedd o fewn ardal Notting Hill ar gau ddydd Sul a dydd Llun ar gyfer y digwyddiad.

Roedd Maer Llundain Sadiq Khan wedi annog pawb i gyrraedd yn gynnar ac i fwynhau’r achlysur.

Dim ond carnifal Rio de Janeiro ym Mrasil sy'n fwy nag un Notting Hill.

Darllenwch fwy yma.

Llun: visitlondon
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.