Dros 1,000 o bobl wedi marw mewn llifogydd ym Mhacistan

Mae Pacistan wedi apelio am ragor o gymorth rhyngwladol i ddelio gyda’r llifogydd yn y wlad.
Mae dros 1,000 o bobl wedi marw a llawer mwy wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.
Mae’r DU, UDA a’r UAE wedi cyfrannu ond dywedodd swyddogion ym Mhacistan bod angen rhagor.
Mae miloedd o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn nhalaith Sindh yn ne ddwyrain y wlad ynghyd â thalaith Khyber Pakhtunkhwa yn y gogledd orllewin.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit