Merched Cymru’n colli yng Nghanada
28/08/2022
Colli bu hanes tîm rygbi merched Cymru yn erbyn Canada o 31-3.
Er i Gymru fynd ar y blaen yn gynnar yn y gêm gyda chic gosb gan Elinor Snowsill, fe ddaeth Canada nôl yn gryf i sgorio pum cais yn gyfan gwbl yn y fuddugoliaeth o flaen torf o 4,000 yn Halifax, Nova Scotia nos Sadwrn.
Roedd tîm Ioan Cunningham yn defnyddio'r gêm fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd ym mis Hydref.
Dywedodd Ioan Cunningham ar ôl y gêm: “Roedd nifer o bethau positif yno, ac efallai nad oedd y sgôr yn adlewyrchu hynny.”
Llun: Asiantaeth Huw Evans