Newyddion S4C

Cynnal ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth menyw ger Aberhonddu

27/08/2022
Heddlu.
Heddlu.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw 87 oed yn ardal Llanfrynach ger Aberhonddu ym Mhowys.

Cafodd swyddogion eu galw i eiddo am tua 21.25 nos Wener.

Cludwyd y fenyw mewn ambiwlans awyr i’r ysbyty ond bu farw ddydd Sadwrn.

Mae teulu’r fenyw wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn 57 oed yno ac mae e’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.