Cynnal ail 'Frwydr Maes Dulyn' i nodi canmlwyddiant clwb pêl-droed
Bydd gem arbennig yn cael ei chwarae ar Faes Dulyn neu gae'r Fêl, ym Mhenygroes ger Caernarfon brynhawn dydd Llun rhwng tîm Nantlle Vale a Sêr Cymru.
Mae'r gêm wedi ei threfnu i ddathlu canmlwyddiant y clwb.
Mae 'Brwydr Maes Dulyn 2' yn dwyn atgofion o’r gêm chwaraewyd rhwng actorion y gyfres gomedi C'mon Midffîld â Phobol y Cwm nôl yn 1990.
Cafodd y gêm honno ei hadnabod fel ‘Brwydr Fawr Maes Dulyn’ gyda thîm Bryncoch yn fuddugol o 2-1 yn erbyn cymeriadau Cwmderi.
Roedd dros 3,000 o bobl wedi dod i wylio gyda Wali Tomos, sef y diweddar Mei Jones, yn serennu.
Ar gyfer 'Brwydr Fawr Maes Dulyn 2' ddydd Llun, fe fydd Tîm Lejands Clwb Pêl-droed Nantlle Vale yn herio Tîm Sêr Cymru fydd yn cael eu rheoli gan Bryn Fôn ac yn cynnwys Yws Gwynedd, Osian o Candelas a rhai o actorion Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.
Y tro yma, dywedodd CPD Nantlle Vale mai dim ond 1,000 o docynnau sydd ar gael ac mae angen cysylltu gyda’r clwb.
Fe fydd y gic gyntaf am 14.00 dydd Llun ar Faes Dulyn ym Mhenygroes gyda'r gatiau yn agor am 12.00.
✨⚽️Brwydr Fawr Maes Dulyn 2⚽️✨
— Nantlle Vale FC (@NantlleValeFC) August 19, 2022
Tîm Lejands Clwb Pêl-droed Nantlle Vale v Tîm Sêr Cymru⭐️
Dydd Llun 29ain o Awst yng nghae Nantlle Vale, Penygroes.
Y gic gyntaf am 2 o'r gloch.
Cysylltwch am tocynnau🌟 pic.twitter.com/7XhDgSz5f5