Olivia Pratt-Korbel: Dau ddyn wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth

Mae dau ddyn gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Olivia Pratt-Korbel yn Lerpwl wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Roedd Heddlu Glannau Mersi wedi arestio dyn 36 oed o Huyton a dyn 33 oed o Dovecot ar amheuaeth o lofruddio a dau gyhuddiad o geisio llofruddio.
Cafodd y ferch naw oed ei saethu yn ystod ymosodiad yn ardal Dovecot o’r ddinas nos Lun.
Mae’r dyn 36 oed wedi ei alw nôl i’r carchar am dorri termau ei drwydded.
Roedd cefnogwyr yn y gêm rhwng Lerpwl a Bournemouth wedi rhoi cymeradwyaeth er cof am Olivia ar ôl naw munud brynhawn Sadwrn wrth i’r dorf ganu You’ll Never Walk Alone yn Anfield.
Darllenwch fwy yma.