Gwasanaeth Tân De Cymru yn rhybuddio tafarndai wedi digwyddiad a laddodd degau yn Y Swistir
Mae Gwasanaeth Tân De Cymru wedi rhybuddio busnesau a thafarndai i gadw draw o dân gwyllt a 'pyrotechnics' dan do wedi tân yn Y Swistir ar Nos Galan.
Bu farw 40 o bobl yn dilyn tân mewn bar yn ardal Crans-Montana, gyda 119 o bobl eraill wedi cael eu hanafu.
Roedd nifer y rheiny a fu farw yn bobl ifanc, gyda 15 ohonynt dan 18 oed.
Y gred yw mai gwreichionen (‘sparkler’) oedd yn cael ei chludo ar ben potel o ddiod oedd achos y tan.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd wedi annog busnesau lleol i beidio â defnyddio eitemau o’r fath gan rybuddio pobl o’u peryglon.
“Yn dilyn y tân dinistriol ym mar Le Constellation yn y Swistir ar Nos Galan, mae meddyliau a chydymdeimladau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyda theuluoedd, ffrindiau, a chymuned gyfan Crans-Montana," medden nhw.
“Mae colli cymaint o fywydau, yn enwedig cymaint o bobl ifanc, mewn safle a ddylai fod yn lle i ddathlu, yn drasiedi."
Dywedodd y gwasanaeth eu bod yn annog “pob perchennog clwb nos, staff a chwsmeriaid ledled De Cymru i fod yn wyliadwrus” wedi’r digwyddiad.
Mae’r gwasanaeth tân hefyd yn annog perchnogion busnes i sicrhau bod llwybrau i ffoi rhag tannau wedi’i wneud yn amlwg a bod pob aelod o staff wedi’u hyfforddi er mwyn delio gyda sefyllfa o’r fath.
Maent yn hefyd annog cwsmeriaid a phobl leol i gymryd sylw o allanfeydd wedi iddyn nhw gyrraedd bar neu glwb nos.
Mae rheolwyr bar Le Constellation yn Y Swistir bellach dan ymchwiliad troseddol wedi’r digwyddiad yno.
