Newyddion S4C

‘Croeso anhygoel’ i ffoadur o Wcráin yn Pride Cymru

27/08/2022

‘Croeso anhygoel’ i ffoadur o Wcráin yn Pride Cymru

Mae ffoadur o Wcráin sydd wedi symud i Gaerdydd wedi dweud iddi dderbyn “croeso anhygoel” yng Nghymru.

Roedd Alina Cherniavska yn cerdded fel rhan o orymdaith Pride Cymru yn y brifddinas ddydd Sadwrn.

Dyma’r tro cyntaf i’r orymdaith gael ei chynnal ers 2019 yn sgil pandemig Covid-19.

Roedd cynrychiolwyr o Wcráin yn yr orymdaith i godi ymwybyddiaeth o’r rhyfel sydd yn parhau yn y wlad yn dilyn ymosodiad Rwsia ym mis Chwefror.

Dywedodd Alina wrth Newyddion S4C: “Fe ddes i i Gaerdydd ym mis Mai, rhyw bedwar mis yn ôl.

“Mae’n anhygoel, doeddwn i ddim yn disgwyl gymaint o groeso a pobl llawen, gwych o gwmpas, felly dwi’n fwy na bodlon am hynny.”

Dywedodd Beth Arthur sydd yn noddi Alina ac yn cyd-fyw â hi ei bod yn “gefnogwr balch” o’r gymuned LHDT+.

“Dwi’n caru fe, rwy’n gefnogwr balch, mae gen i ffrindiau, mae gen i deulu sy’n LHDT+ ac i allu dod yma a’i wneud e ac i allu ei wneud e gyda’r Wcraniaid sydd i fod yn deg wedi fy nerbyn i fel rhan o’u grŵp.”

Image
Andrii Pride
Mae Andrii yn wreiddiol o Odessa ond wedi byw yng Nghaerdydd ers dwy flynedd.

'Pawb yn gydradd'

Fe symudodd Andrii Zhuravskyi i Gaerdydd yn 2020 ond mae e’n wreiddiol o Odessa yn ne orllewin Wcráin.

“Heddiw rydym wedi cael ein gofyn i gario’r baneri o Kyiv a Kharkiv Pride a cherdded gyda nhw yng ngorymdaith Pride Caerdydd,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae’n anrhydedd fawr ac rydym yn hapus iawn ein bod wedi gwneud.

“Dwi’n meddwl yn enwedig mewn cyfnodau o ryfel fel sydd ar hyn o bryd yn Wcráin, mae pawb yn gydradd. 

“Mae angen i ni gadw cefnogi’r pethau hyn, mae angen i ni gadw cefnogi Wcráin.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.