'Cael erthyliad yn 15 oed wedi newid fy mywyd'

'Cael erthyliad yn 15 oed wedi newid fy mywyd'

Mae ymgeisydd Y Blaid Werdd ar gyfer etholiad y Senedd fis Mai wedi rhannu ei phrofiad o gael erthyliad pan yn 15 oed gyda phobl ifanc. 

Fe gafodd Tessa Marshall, 28 oed, erthyliad tra'r oedd yn astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU, ac fe wnaeth “newid ei bywyd”. 

Yn ôl Ms Marshall o Gaerdydd, fe allai hi fod wedi osgoi bod yn feichiog petai wedi derbyn addysg rhyw. 

Fe siaradodd Ms Marshall am ei phrofiad o flaen neuadd o ddisgyblion chweched dosbarth - fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf - mewn sesiwn hystings yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd. 

Wrth siarad â Newyddion S4C wedi’r digwyddiad, fe ddywedodd rhai disgyblion eu bod wedi gwerthfawrogi ei bod wedi siarad yn agored am y pwnc. 

“Gwnaeth gael erthyliad yn bymtheg oed newid fy mywyd,” meddai Ms Marshall.

“Roeddwn i yn gwneud fy arholiadau TGAU i ac mae really wedi bod yn rhywbeth sydd yn fy ngyrru fel gwleidydd i greu newid go-iawn.

“Heb fynediad at erthyliad fe fyddai gyda fi blentyn 13 oed nawr. Dydy hynny ddim yn rhywbeth sydd gan bob merch yr hawl iddo o amgylch y byd.

“Mae dal i fod yn stigma.”

Pwysigrwydd addysg rhyw

Mae’n mynnu petai hi wedi derbyn gwersi addysg rhyw fe fyddai pethau wedi bod yn wahanol. 

“Os oeddwn i wedi cael addysg rhyw iawn, byddai hynny ddim yn wedi digwydd a fi yn gallu dweud hynny yn sicr,” meddai.

“Doeddwn i heb gael addysg rhyw o gwbl gan bo' fi yn triple science, ac odd yr awr o ni’n neud triple science roedd pobol yn cael addysg rhyw. 

“Mae e wedi dangos i fi fod addysg a chefnogi pobl i ddeall a gwybod beth sy’n digwydd, mae’n allweddol.”

Image
Tessa Marshall
Cafodd Tessa Marshall erthyliad yn 15 oed

Yn ôl Ms Marshall, mae’n rhaid cefnogi hawl “pob menyw a phob person ifanc”  sydd am dderbyn addysg rhyw, hyd yn oed os yw eu cefndir, diwylliant neu grefydd yn gwrthwynebu erthylu. 

“Ar ddiwedd y dydd rydyn ni’n gwybod bydd rhai pobl sy’n addysgu am beidio a chael perthnasau rhywiol [cyn priodi] bod hynny ddim yn digwydd yn ymarferol,” meddai. 

“Ac felly, mae’n hollbwysig fod gan bobl ifanc y wybodaeth cywir a’r mynediad cywir ar sut i warchod ei hunain.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.