Dyn a gollodd ei bartner i ganser yn galw am weithredu brys

Rhydian Thomas a Claire O'Shea

Mae dyn o Gaerdydd wedi dweud y gallai ei bartner fod yn “fyw nawr” pe bai wedi cael ei chymryd o ddifrif pan aeth hi at ddoctoriaid gyda symptomau canser gynaecolegol. 

Bu farw Claire O’Shea yn 42 oed ym mis Mai 2025 yn dilyn brwydr gyda chanser prin o’r enw 'Uterine leiomyosarcoma,' neu uLMS. 

Mae ei phartner Rhydian Thomas yn dweud ei fod yn rhwystredig nad oes mwy wedi newid wrth i fenywod yng Nghymru “barhau i gael eu siomi.” 

Mewn adroddiad ddydd Gwener, mae un o bwyllgorau’r Senedd yn dweud bod diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yn golygu bod lleisiau menywod yn parhau i beidio â chael eu clywed. 

Ym mis Rhagfyr 2023, fe gyhoeddodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru adroddiad Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol.

Roedd yr adroddiad hwnnw'n nodi bod yna “fethiannau critigol” mewn gofal canser gynaecolegol yng Nghymru. 

Ond mae diffyg gweithredu ers hynny wedi golygu bod menywod yn parhau i gael eu hanwybyddu, gan arwain at farwolaethau diangen meddai Rhydian Thomas. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Thomas: “Be’ ‘dan ni’n siarad am fan hyn yw bod pobl yn marw o ganlyniad i’r diffygion ‘ma. 

“Dyw e ddim yn rhywbeth bach, mae ‘na deuluoedd ar draws Cymru yn cael eu dinistrio o ganlyniad i golli rhywun. 

“Colli mam, merch, chwaer o ganlyniad i’r ffaith bod nhw heb gael eu cymryd o ddifrif a bod y prosesau ‘ma ddim yn eu lle.”

Image
Rhydian Thomas a Claire O'Shea
Claire O'Shea a Rhydian Thomas (Llun cyfrannwr)

'Byddai Claire dal yn fyw'

Fe gafodd y rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor yn 2023 eu derbyn, ond mae cynnydd tuag at wella amseroedd aros a chanlyniadau yn parhau i fod yn “araf ac yn annigonol,” meddai’r adroddiad ddydd Gwener. 

Roedd Claire O’Shea wedi chwarae rhan flaenllaw wrth dynnu sylw i’r anawsterau y mae menywod yn eu hwynebu gyda’u hiechyd, a hynny yn dilyn oedi hir gyda’i diagnosis, wedi iddi gael cam-ddiagnosis o gyflwr IBS. 

Mae Rhydian Thomas yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd “unrhyw lywodraeth yng Nghymru” yn gwneud “cyn gymaint â nhw’n gallu” i sicrhau bod yr argymhellion diweddaraf yn cael eu cwrdd, a hynny ar frys.

“Ath Claire [i’r meddyg teulu] nôl yn 2021, aeth hi i’r doctor rhyw dau, dri, pedwar gwaith efo problem ac 'odd y doctor ar y pryd ddim yn cymryd hi – ddim yn cymryd y broblem o ddifri,” meddai Rhydian. 

“Ac o ganlyniad i’r penderfyniad hynny mi 'gath Claire ddiagnosis o ganser. ‘Odd y canser wedi spreado a mi 'nath hi farw y llynedd. 

Image
Claire O'Shea
Claire O'Shea (Llun: Gofal Canser Tenovus)

“A mae’n eitha’ posib, ‘sa na brosesau gwell yn eu lle, ‘sa doctoriaid yn gyffredinol yn ymwybodol o’r problemau ‘ma, ‘sa’r amser oedd rhaid i Claire ei haros i gael triniaeth – mae ‘na lu o broblemau yma. 

“Ond ‘sa popeth wedi digwydd mewn ffordd well – a dwi ddim yn credu bod ni’n siarad am ‘big fixes’ fel petai yn y mater yma, mae ‘na lot o bethau allwn ni ‘neud – y broses, y system iechyd a’r llywodraeth ‘neud, i wella’r sefyllfa. 

“Sa rheiny wedi digwydd falle byddai Claire yn fyw nawr.” 

Fe sefydlodd Claire fudiad Ymgyrch Claire er mwyn helpu menywod mewn sefyllfa debyg adeg ei diagnosis o ganser. Mae’r mudiad, ynghyd â Gofal Canser Tenovus a Target Ovarian Cancer ymhlith yr elusennau a gyfrannodd at yr adroddiad.  

Image
Rhydian Thomas a Claire O'Shea
Llun cyfrannwr

'Annerbyniol'

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau er mwyn mynd i’r afael a’r methiannau. 

Dywedodd y pwyllgor fod y llywodraeth wedi methu â dyrannu cyllid penodol ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol, wedi peidio â chyhoeddi targedau GIG mesuradwy, ac wedi methu’r nod o “bell ffordd” o ran amseroedd aros. 

Dywedodd Peter Fox AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd: “Y tu ôl i bob ystadegyn, mae menywod a theuluoedd y mae eu bywydau’n dibynnu ar ddiagnosis a thriniaeth amserol. 

“Pan gyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2023, dywedodd y Cadeirydd bryd hynny fod yr ymchwiliad wedi bod ymysg y mwyaf emosiynol iddo fod yn rhan ohonynt.

“Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’n annerbyniol bod cyn lleied o gynnydd wedi cael ei wneud. Os yw canser gynaecolegol yn flaenoriaeth go iawn, rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos hynny drwy gamau gweithredu amlwg, cyllid penodol, ac atebolrwydd clir.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor ac yn ystyried yr argymhellion. Byddwn yn ymateb yn ffurfiol maes o law.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r GIG yng Nghymru i gyrraedd targedau a gwella canlyniadau canser ar gyfer canser gynaecolegol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.