Liam Williams yn ymddeol o rygbi rhyngwladol
Mae Liam Williams wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol.
Mewn cyhoeddiad ddydd Gwener dywedodd Williams, sydd yn gallu chwarae fel cefnwr neu ar yr asgell, mai dyma'r adeg iawn iddo ymddeol o'r gêm ryngwladol.
Mae Williams wedi ennill 91 o gapiau a sgorio 23 cais yn ystod gyrfa 14 mlynedd gyda Chymru.
"Dwi wedi penderfynu mai dyma'r amser i ddweud hwyl fawr, i'r tair pluen, fy nghartref, diolch," meddai.
"Dros y 14 mlynedd diwethaf dwi wedi cael y fraint o gynrychioli fy ngwlad ar 93 achlysur, rhywbeth doeddwn i erioed wedi ei ddychmygu fel plentyn ifanc."
Diolchodd Williams i'w wraig a'i fab, Leo am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.
"I fy ngwraig Sophie a'n bachgen bach Leo, diolch. Rydych chi wedi bod yn graig i mi, ac rydych chi'ch dau wedi rhoi safbwynt hollol newydd i mi ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig mewn bywyd," meddai.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'm teulu agos am y gefnogaeth dros y blynyddoedd. Hebddo chi, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl.
"Dwi'n camu i ffwrdd o rygbi rhyngwladol yn difaru dim, does gen i ond balchder a diolchgarwch, am y cyfle a roddwyd i mi. Diolch."
Yn ystod ei yrfa ryngwladol roedd Liam Williams hefyd wedi cynrychioli'r Llewod ar bump achlysur.
Disgrifiodd y cyfnod hynny fel "profiad fydda i'n ddiolchgar amdano am byth."
Roedd yn rhan o garfan Cymru a enillodd y Gamp Lawn yn 2019, ac fe enillodd un bencampwriaeth arall.
Ar hyn o bryd mae Williams yn rhan o garfan Newcastle Red Bulls, sydd yn chwarae yn y Gallagher Premiership.
Cyn hynny roedd wedi treulio cyfnodau gyda'r Scarlets, Saracens, Rygbi Caerdydd a'r Kubota Spears.