Caernarfon: Cynnig cynllun ar gyfer eisteddle newydd i 600 o bobl yn Yr Oval

Llun: CPD Caernarfon/Simon Wale
Yr Oval

Mae cynlluniau ar gyfer adeiladu eisteddle newydd i 600 o bobl yn stadiwm Caernarfon, Yr Oval wedi eu cyflwyno i'r cyngor sir.

Byddai'r cynllun yn gweld yr eisteddle presennol tua'r gogledd yn cael ei ddymchwel er mwyn adeiladu'r un newydd.

Ar hyn o bryd mae cynllun adnewyddu gwerth £1 miliwn yn digwydd yn y stadiwm, gyda Chlwb Pêl-droed Caernarfon yn chwarae eu gemau yn Llandudno.

Daw'r gwaith adnewyddu wrth i'r clwb baratoi i gynnal gemau Pencampwriaeth EURO dan 19 haf nesaf.

Roedd angen gwneud y gwaith fel bod y stadiwm yn cyrraedd safon UEFA, un o gyrff llywodraethu'r gamp.

Image
Cynlluniau ar gyfer Yr Oval. Llun: Cyngor Gwynedd
Cynlluniau ar gyfer Yr Oval. Llun: Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd bellach wedi derbyn cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol, ac adeiladu eisteddle gyda 600 o seddi i du ôl i un o goliau'r Oval.

Mae'r cynllun yn nodi bod yr eisteddle presennol ar goncrit, ac felly "ni fyddai'n arwain at golli unrhyw dir gwyrdd sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio".

Ychwanegodd y cais cynllunio y byddai'r gwaith yn golygu na fydd llawer o newid i elfennau hanfodol y safle, gan gynnwys draenio.

Yn ogystal â'r gwaith oddi ar y cae, mae arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn lleihau'r llethr sydd ar y cae.

Ni ddylai'r graddiant fod yn uwch na 2.5%, ac mae'r gwaith presennol yn gobeithio lleihau’r llethr i 1.43%. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.