Dyn wedi ei hedfan i ysbyty yng Nghaerdydd ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwynedd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 78 oed gael ei gludo i ysbyty yng Nghaerdydd gydag anafiadau "difrifol" ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwynedd.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A493 yn Bryncrug, Tywyn am 21.12 nos Fercher, yr 21ain o Ionawr.
Fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty yng Nghaerdydd mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol.
Mae'r ffordd bellach wedi ail-agor yn dilyn y gwrthdrawiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Timothy Evans o Uned Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: "Dwi'n holi i unrhyw un wnaeth weld y gwrthdrawiad ac sydd heb wneud eisoes, i gysylltu â'r Heddlu."
Ychwanegodd: "Dwi hefyd yn holi i unrhyw un sydd gyda fideo CCTV neu dashcam yn cynnwys Renault Modus lliw beige yn cael ei yrru drwy ardal Tywyn cyn y gwrthdrawiad, rhwng 20.45 a 21.10, i gysylltu â'r Heddlu cyn gynted â phosib."
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yn cael eu hannog i gysylltu â swyddogion yr Uned Gwrthdrawiadau Difrifol drwy eu gwefan neu wrth ffonio 101 gan nodi'r cyfeirnod; 26000058199.