'Annog creadigrwydd': Dathlu 70 mlynedd o Ysgol Glan Clwyd

Ysgol Glan Clwyd / Caryl Parry Jones

70 mlynedd yn ôl fe wnaeth yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg cyntaf yn y wlad agor ei drysau, a hynny ar arfordir Gogledd Cymru.

Fe ddechreuodd hanes cyfoethog Ysgol Glan Clwyd yn Y Rhyl, cyn symud i'w lleoliad presennol yn Llanelwy yn 1969.

Dros y blynyddoedd mae Ysgol Glan Clwyd wedi gweld sawl disgybl yn serennu yn y byd adloniant a cherddoriaeth, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r ysgol yn adnabyddus am lwyfannu sioeau cerdd, ac yn y gorffennol wedi llwyfannu sioeau  yn cynnwys cyfieithiadau o'r Lion King a Hairspray.

Tair blynedd yn ôl roedd Caryl Parry Jones, sydd yn gyn-ddisgybl, wedi cyfansoddi sioe gerdd o'r enw Yn y Dechreuad sydd yn adrodd hanes yr ysgol.

Dywedodd Caryl wrth Newyddion S4C bod sioeau cerdd a gwasanaeth Nadolig yr ysgol ymysg rhai o'i hatgofion gorau yn ei chyfnod yno rhwng 1969 a 1976.

"Un o’r atgofion gorau yn bendant oedd y gwasanaeth carolau blynyddol yn yr eglwys gadeiriol yn Llanelwy," meddai.

"O’dd y gwasanaeth nid yn unig yn uchafbwynt i ni, ond 'di dod yn draddodiad i bawb o’dd yn dod i’n gweld hefyd, o’dd o wir yn rhywbeth i edrych ymlaen ato fo.

"Gilmor Griffiths oedd yr athro cerdd, ac o ran cynnau dioddordeb mewn cerddoriaeth ac roedd yn sgwennu caneuon proliffig ac yn eu trefnu nhw i bedwar llais, ac nesi ddysgu gymaint ganddo fo.

"O’dd y sain, yn enwedig yn y gadeirlan yn arallfydol. Ma’ rhywbeth am sain canu Glan Clwyd sydd yn symud o un cenhedlaeth i’r llall, o’dd o wir yn wefreiddiol.

"Dyna lle nesi ddysgu ysgrifennu creadigol a gwerthfawrogi llenyddiaeth hefyd."

Brwydr i agor yr ysgol

Roedd brwydr i agor yr ysgol yn y 50au, gyda sawl rhiant nad oedd yn medru'r Gymraeg yn mynnu bod eu plant yn cael cyfle i dderbyn addysg Gymraeg.

Pan agorwyd yr ysgol yn 1956, roedd ganddi ddalgylch enfawr, ac mae hynny'n parhau'n wir hyd heddiw.

O Dywyn a Threffynnon ger arfordir y gogledd i bentrefi Dyffryn Clwyd a gorllewin tref Dinbych, mae cymysgedd o blant o'r trefi a chefndir amaethyddol yn mynychu'r ysgol.

Mae hynny'n un o resymau dros lwyddiant yr ysgol, meddai Caryl Parry Jones.

"Peth arall o’n i’n lico o'dd bod gen ti pobl Rhyl a Prestatyn a phlant o Dyffryn Clwyd wedyn, y pentrefi mwy ochr Dinbych," meddai.

"O’dd byth drwgdeimlad rhwng y ddau, ond o’dd y cyfuniad yna yn rhan o lwyddiant Glan Clwyd a dweud y gwir.

"O’dd yr ysgol yn dda iawn yn annog creadigrwydd yn sicr, yn enwedig Gilmor, ac roedd y prifathro Desmond Healy yn gefnogol iawn yn ysod cyfnod Sidan pan o’n i’n cynnal cyngherddau ym mhob cwr o Gymru ar y pryd. Yn gyffredinol roedd y gefnogaeth yn wych."

Un arall sydd ag atgofion melys o fod yn ddisgybl yn yr ysgol ydi'r cerddor Morgan Elwy o Lansannan.

"Pan o’n i yna mi oedd 'na gymuned neis yn Ysgol Glan Clwyd ac o’n i’n cael lot o gyfleon," meddai wrth Newyddion S4C.

Image
Morgan Elwy
Fe wnaeth Morgan Elwy ennill cystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân 'Bach o Hwne' yn 2021 (Llun: S4C)

"Pan o’n i’n iau, blwyddyn 7 ac 8, nes i neud cân actol - oedd yn brofiad gwych - a pethau fatha cyngherddau yn yr eglwys gadeiriol. Dwi’n meddwl o’n i’n lwcus o gael hwnna lawr lôn. A chwaraeon hefyd, cyfleon i chwarae rygbi eitha' lot."

Er ei fod wedi mynd ymlaen i astudio ffiseg yn y brifysgol, cafodd Morgan ei annog i fod yn gerddor.

"O'dd gen i athrawon ffiseg rili da nath annog fi i fynd ymlaen ac astudio’r pwnc yn y brifysgol," meddai. 

"Ond hefyd o'dd gyno ni griw rili da o athrawon oedd yn pwsio’r celfyddydau a natho ni setio fyny band tra o’n i’n ysgol."

Yn ystod ei amser yn y chweched dosbarth, roedd Morgan yn treulio ei amser cinio a'i wersi rhydd yn ymarfer gyda'r band.

"O'n i 'rioed yn cymryd cerdd, ond o’n i’n dal yn cael defnyddio’r stafelloedd ymarfer ac o'dd 'na dryms wedi setio fyny yno," meddai.

"Nes i hefyd neud sioe pan o'n i'n chweched dosbarth ac o'dd hwnna’n production rili mawr, gafo ni berfformio yn y pafiliwn yn y Rhyl oedd yn brofiad amazing a jyst cael y cyfle i fod ar y llwyfan."

'Calon ein cymuned'

Erbyn heddiw mae dros 1,000 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Glan Clwyd, gyda "canran sylweddol" yn byw mewn tai lle nad yw'r rhieni yn siarad Cymraeg.

Ni fyddai hynny wedi bod yn bosib heb ymroddiad y rheiny oedd wedi brwydro i adeiladu'r ysgol 70 mlynedd yn ôl, ac mae hynny'n destun balchder i'r ysgol.

"Mae'r ysgol hon yn galon ein cymuned, a hynny o dalgylch eang o’r glannau yn Rhyl a draw i’r ardaloedd mwy gwledig yn Llansannan a Llanefydd," meddai'r pennaeth cynorthwyol, Meryl Pierce.

"Rydym ni mor ddiolchar i’r rhai cynta’ ‘na gafodd y weledigaeth i frwydro ac i ddal eu tir i sicrhau bod Ysgol Glan Clwyd ‘di cael ei sefydlu.

"Ma’n braf gweld bod ni wedi symud ymlaen a bod dros 1,000 o ddisgblion yn yr ysgol, yn enweidg lle mae canron sylweddol sydd yn dod o gartref lle does na’m un rhiant yn siarad Cymraeg.

"Ma’ rhywun yn gallu cymryd balchder mawr bod y cyfle yna i gael addysg dwyieithog yna yn sgil be wnaeth y pobl arbennig hynny yn y 50’au.”

Wrth roi neges i ddisgyblion presennol yr ysgol, mae Caryl Parry Jones yn eu hannog i fod yn falch ac yn hapus o'r hyn maen nhw'n eu cyflawni.

"Peidiwch â cystadlu hefo neb ond chi’ch hun," meddai.

"Beth bynnag ‘da chi’n hapus yn ei wneud, waeth beth ydi o.

"Os ydi o yn trwsio brens pobl neu glanhau toilets, os ‘da chi’n mwynhau o ac yn prowd ohono fo, gwnewch o.

"Dan ni gyd angen ein gilydd yn y byd ‘ma felly gwnech yn siwr bod chi’n gwneud be’ ‘da chi’n caru."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.