O leiaf 90 wedi marw yn dilyn ffrwydrad mewn pwll glo yn Tsieina

Glofa Tsieina

Mae o leiaf 90 o bobl wedi marw yn dilyn ffrwydrad mewn pwll glo yng ngogledd Tsieina, yn ôl cyfryngau'r wlad.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad nwy yng nghloddfa Liushenyu, yn Nhalaith Shanxi i’r de-ddwyrain o’r brifddinas Beijing.

Mae cannoedd o achubwyr wedi cael eu hanfon i'r safle. 

Mae mwy 'na 100 o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty, wrth i’r gwaith achub ar y safle barhau.

Digwyddodd y ffrwydrad am 19:29 amser lleol ddydd Gwener (11:29 GMT).

Yn dilyn y digwyddiad, galwodd Arlywydd Tsieina Xi Jinping am bob ymdrech i gael ei wneud i drin y rhai sydd wedi eu hanafu ac i chwilio am oroeswyr.

Gofynnodd hefyd i'r llywodraeth ymchwilio i achos y ffrwydriad gan ddwyn unrhyw rai fyddai wedi bod yn gyfrifol i gyfrif.

Nid yw achos y ffrwydrad nwy wedi'i ddatgelu eto, ond yn ôl cyfryngau'r wladwriaeth roedd lefelau carbon monocsid - sydd yn nwy gwenwynig iawn, di-arogl - yn y pwll glo yn "uwch na lefelau cyfreithlon".

Llun: Xinhua

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.